Hen Destament

Testament Newydd

Esra 3:1-9 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd pobl Israel i gyd wedi setlo i lawr yn eu trefi. Yna yn y seithfed mis dyma pawb yn dod at ei gilydd i Jerwsalem.

2. A dyma Ieshŵa fab Iotsadac a'r offeiriaid oedd gydag e, a Serwbabel fab Shealtiel a'i ffrindiau, yn ailadeiladu allor Duw Israel. Wedyn gallen nhw ddod ag offrymau i'w llosgi a dilyn y cyfarwyddiadau roedd Duw wedi eu rhoi i Moses, ei broffwyd.

3. Er fod ganddyn nhw ofn y bobl leol, dyma nhw'n gosod yr allor ar ei safle wreiddiol, a dechrau llosgi offrymau i'r ARGLWYDD arni bob bore a nos.

4. Dyma nhw'n dathlu Gŵyl y Pebyll, a cyflwyno'r nifer cywir o offrymau i'w llosgi bob dydd, fel roedd y cyfarwyddiadau'n dweud.

5. Wedyn dyma nhw'n dod â'r offrymau arferol oedd i'w llosgi – yr offrymau misol ar Ŵyl y lleuad newydd, a'r offrymau ar gyfer y gwyliau eraill pan oedd pobl yn dod at ei gilydd i addoli; a hefyd yr offrymau roedd pobl yn eu rhoi yn wirfoddol.

6. Dechreuon nhw losgi offrymau i'r ARGLWYDD ar ddiwrnod cynta'r seithfed mis. Ond doedd y gwaith o ailadeiladu teml yr ARGLWYDD ddim wedi dechrau eto.

7. Felly dyma'r bobl yn rhoi arian i gyflogi seiri maen a seiri coed i weithio ar y Deml. A dyma nhw'n prynu coed cedrwydd gan bobl Sidon a Tyrus a talu am y rheiny gyda cyflenwad o fwyd, diodydd ac olew olewydd. Roedden nhw'n dod â'r coed i lawr o fryniau Libanus i'r arfordir, ac yna ar rafftiau i borthladd Jopa. Roedd y brenin Cyrus o Persia wedi rhoi caniatâd i hyn ddigwydd.

8. Dyma'r gwaith o adeiladu teml Dduw yn dechrau flwyddyn a mis ar ôl iddyn nhw ddod yn ôl o Babilon i Jerwsalem. Serwbabel fab Shealtiel a Ieshŵa fab Iotsadac ddechreuodd y gwaith, gyda'r offeiriaid, y Lefiaid, a phawb arall oedd wedi dod yn ôl i Jerwsalem o'r gaethglud. A dyma nhw'n penodi Lefiaid oedd dros ugain oed i arolygu'r gwaith oedd yn cael ei wneud ar deml yr ARGLWYDD.

9. Dyma Ieshŵa yn penodi ei feibion a'i berthnasau ei hun, Cadmiel a Binnŵi (sef meibion Hodafia), i fod yn gyfrifol am y gweithwyr. Hefyd meibion Chenadad, a'u meibion nhw, a'u perthnasau o lwyth Lefi.

Darllenwch bennod gyflawn Esra 3