Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 9:2-15 beibl.net 2015 (BNET)

2. Mae'r bobl oedd yn byw yn y tywyllwchwedi gweld golau llachar.Mae golau wedi gwawrioar y rhai oedd yn byw dan gysgod marwolaeth.

3. Ti wedi lluosogi'r genedl,a'i gwneud yn hapus iawn;Maen nhw'n dathlu o dy flaen difel ffermwyr adeg y cynhaeaf,neu filwyr yn cael sbri wrth rannu'r ysbail.

4. Achos rwyt ti wedi torri'r iauoedd yn faich arnyn nhw,a'r ffon oedd yn curo eu cefnau nhw– sef gwialen y meistr gwaith –fel y gwnest ti bryd hynny yn Midian.

5. Bydd yr esgidiau fu'n sathru maes y gâd,a'r gwisgoedd gafodd eu rholio mewn gwaed,yn cael eu taflu i'r fflamau i'w llosgi.

6. Achos mae plentyn wedi cael ei eni i ni;mab wedi cael ei roi i ni.Bydd e'n cael y cyfrifoldeb o lywodraethu.A bydd yn cael ei alw ynStrategydd rhyfeddol, y Duw arwrol,Tad yr oesoedd, Tywysog heddwch.

7. Fydd ei lywodraeth ddim yn stopio tyfu,a bydd yn dod â llwyddiant di-ben-drawi orsedd Dafydd a'i deyrnas.Bydd yn ei sefydlu a'i chryfhaua teyrnasu'n gyfiawn ac yn dego hyn allan, ac am byth.Mae'r ARGLWYDD holl-bwerus yn benderfynolo wneud hyn i gyd.

8. Dyma'r neges anfonodd y Meistr yn erbyn Jacob, a dyna ddigwyddodd i Israel.

9. Roedd y bobl i gyd yn cydnabod hynny – Effraim a'r rhai sy'n byw yn Samaria. Er yn dal yn falch ac ystyfnig, yn honni:

10. “Mae'r blociau pridd wedi syrthio,ond byddwn yn ailadeiladu hefo cerrig nadd!Mae'r coed sycamor wedi eu torri i lawr,ond gadewch i ni dyfu cedrwydd yn eu lle!”

11. Gadawodd yr ARGLWYDD i elynion Resin ei gorchfygu hi.Roedd e wedi arfogi ei gelynion –

12. daeth Syria o'r dwyrain a Philistia o'r gorllewin –Roedd eu cegau'n llydan agored,a dyma nhw'n llyncu tir Israel.Eto wnaeth Duw ddim stopio bod yn ddig,roedd yn dal yn eu herbyn nhw.

13. Dydy'r bobl ddim wedi troi'n ôlat yr un wnaeth eu taro nhw;Dŷn nhw ddim wedi ceisio'r ARGLWYDD holl-bwerus.

14. Felly bydd yr ARGLWYDD yn torripen a chynffon Israel;y gangen balmwydd a'r frwynenar yr un diwrnod.

15. Yr arweinwyr a'r bobl bwysig – nhw ydy'r pen;y proffwydi sy'n dysgu celwydd – nhw ydy'r gynffon.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 9