Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 8:5-16 beibl.net 2015 (BNET)

5. A dyma'r ARGLWYDD yn siarad gyda mi eto:

6. “Mae'r bobl yma wedi gwrthod dŵr Siloa,sy'n llifo'n dawel,ac wedi plesio Resin a mab Remaleia.

7. Felly, bydd y Meistr yn gwneud i holl ddŵr cryfyr Ewffrates lifo trostyn nhw –sef brenin Asyria a'i fyddin.Bydd fel afon yn torri allan o'i sianelau,ac yn gorlifo'i glannau.

8. Bydd yn rhedeg drwy Jwda fel llifogyddac yn codi at y gwddf.Mae ei adenydd wedi eu lledudros dy dir i gyd, Emaniwel!”

9. Casglwch i ryfel, chi bobloedd – ond cewch eich dryllio!Gwrandwch, chi sydd ym mhen draw'r byd:Paratowch i ryfel – ond cewch eich dryllio;Paratowch i ryfel – ond cewch eich dryllio!

10. Cynlluniwch strategaeth – ond bydd yn methu!Cytunwch beth i'w wneud – ond fydd e ddim yn llwyddo.Achos mae Duw gyda ni!

11. Dyma ddwedodd yr ARGLWYDD wrtho i – fel petai'n gafael ynof fi a'm rhybuddio i beidio mynd yr un ffordd â'r bobl yma:

12. “Peidiwch dweud, ‘Cynllwyn ydy e!’bob tro mae'r bobl yma'n dweud fod cynllwyn!Does dim rhaid dychryn na bod ag ofnbeth maen nhw'n ei ofni.

13. Yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy'r un i'w barchu!Fe ydy'r unig un i'w ofni,a dychryn rhagddo!

14. Bydd e yn gysegr –ond i ddau deulu brenhinol Israelbydd yn garreg sy'n baglu pobla chraig sy'n gwneud iddyn nhw syrthio.Bydd fel trap neu fagli'r rhai sy'n byw yn Jerwsalem.

15. Bydd llawer yn baglu,yn syrthio ac yn cael eu dryllio;ac eraill yn cael eu rhwymo a'u dal.”

16. Bydd y rhybudd yma'n cael ei rwymo, a'r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a'i gadw gan fy nisgyblion i.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 8