Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 8:15-22 beibl.net 2015 (BNET)

15. Bydd llawer yn baglu,yn syrthio ac yn cael eu dryllio;ac eraill yn cael eu rhwymo a'u dal.”

16. Bydd y rhybudd yma'n cael ei rwymo, a'r ddysgeidiaeth yn cael ei selio a'i gadw gan fy nisgyblion i.

17. Dw i'n mynd i ddisgwyl am yr ARGLWYDD, er ei fod e wedi troi cefn ar bobl Jacob – dw i'n ei drystio fe!

18. Dyma fi, a'r plant mae'r ARGLWYDD wedi eu rhoi i mi. Maen nhw'n arwyddion ac yn rhybudd i Israel oddi wrth yr ARGLWYDD holl-bwerus, sy'n byw ar Fynydd Seion.

19. Bydd pobl yn dweud wrthoch chi,“Ewch i holi'r swynwyr a'r dewiniaidsy'n sgrechian a griddfan.Oni ddylai pobl geisio eu ‛duwiau‛ –holi'r meirw ar ran y byw?”

20. “At y gyfraith a'r dystiolaeth!Os nad ydyn nhw'n siarad yn gyson â'r neges ymamaen nhw yn y tywyllwch.”

21. Maen nhw'n cerdded o gwmpasmewn eisiau a newyn.Am eu bod yn llwgu byddan nhw'n gwylltioac yn melltithio eu brenin a'u ‛duwiau‛,wrth edrych i fyny.

22. Wrth edrych ar y tirdoes dim i'w weld ond trwbwl a thywyllwch,düwch a gwewyr meddwl –bydd wedi ei daflu i dywyllwch dudew.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 8