Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 66:4-17 beibl.net 2015 (BNET)

4. bydda i'n dewis eu cosbi nhw'n llym,a throi eu hofnau gwaetha yn realiti.Pan oeddwn i'n galw, wnaeth neb ateb;pan oeddwn i'n siarad, doedd neb yn gwrando.Roedden nhw'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu,ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”

5. Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD,chi sy'n parchu beth mae'n ei ddweud!Mae eich pobl eich hunain yn eich casáu chia'ch cau chi allan am sefyll drosta i.Maen nhw'n dweud yn wawdlyd:“Boed i'r ARGLWYDD gael ei anrhydeddu,i ni eich gweld chi'n cael eich gwneud yn hapus.”Ond byddan nhw'n cael eu cywilyddio.

6. Gwrandwch! Mae twrw yn dod o'r ddinas,a sŵn yn dod o'r deml!Sŵn yr ARGLWYDD yn talu'n ôl i'w elynion.

7. All gwraig gael plentyn heb boenau geni?All hi eni mab cyn i'r pyliau ddechrau?

8. Na! Pwy glywodd am y fath beth?Pwy welodd rywbeth felly'n digwydd?Ydy gwlad yn geni plant mewn diwrnod?Ydy cenedl yn dod i fod mewn moment?Ond dyma Seion newydd ddechrau esgorac mae eisoes wedi cael ei phlant!

9. “Fyddwn i'n gadael i'r dŵr dorri heb eni plentyn?”—yr ARGLWYDD sy'n gofyn.“Fyddwn i'n dechrau'r broses eni, ac yna'n ei rhwystro?”—ie, dy Dduw sy'n gofyn.

10. Byddwch yn llawen dros Jerwsalema dathlu gyda hi,bawb ohonoch chi sy'n ei charu!Ymunwch yn y dathlu,chi fu'n galaru drosti –

11. i chi gael sugno ei bronnau a chael eich bodloni,cael blas wrth lepian ar hyfrydwch ei thethi.

12. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Dw i'n rhoi iddi heddwch perffaith fel afon,a bydd cyfoeth y cenhedloedd fel ffrwd yn gorlifo iddi.Byddwch yn cael sugno ei bronnau a'ch cario fel babi,ac yn chwarae ar ei gliniau fel plentyn bach.

13. Bydda i'n eich cysuro chi fel mam yn cysuro ei phlentyn;byddwch chi'n cael eich cysuro yn Jerwsalem.”

14. Byddwch wrth eich bodd wrth weld hyn,a bydd eich corff cyfan yn cael ei adnewyddu.Bydd hi'n amlwgfod nerth yr ARGLWYDD gyda'i weision;ond ei fod wedi digio gyda'i elynion.

15. Ydy, mae'r ARGLWYDD yn dod mewn tânac mae sŵn ei gerbydau fel corwynt.Mae'n dod i ddangos ei fod yn ddig,ac i geryddu gyda fflamau tân.

16. Achos bydd yr ARGLWYDD yn barnu pawbhefo tân a gyda'i gleddyf,a bydd llawer yn cael eu lladd ganddo.

17. “Mae hi ar ben ar bawb sy'n cysegru eu hunain a mynd trwy'r ddefod o ‛buro‛ eu hunain i ddilyn yr un yn y canol ac addoli yn y gerddi paganaidd, gan wledda ar gig moch a phethau ffiaidd eraill fel llygod,” meddai'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 66