Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 66:16-22 beibl.net 2015 (BNET)

16. Achos bydd yr ARGLWYDD yn barnu pawbhefo tân a gyda'i gleddyf,a bydd llawer yn cael eu lladd ganddo.

17. “Mae hi ar ben ar bawb sy'n cysegru eu hunain a mynd trwy'r ddefod o ‛buro‛ eu hunain i ddilyn yr un yn y canol ac addoli yn y gerddi paganaidd, gan wledda ar gig moch a phethau ffiaidd eraill fel llygod,” meddai'r ARGLWYDD.

18. “Dw i'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud a'i feddwl. Dw i'n mynd i gasglu'r gwledydd i gyd, a phobl o bob iaith, iddyn nhw ddod a gweld fy ysblander i.

19. Bydda i'n gosod arwydd yn eu canol nhw, ac anfon at y cenhedloedd rai o'r bobl fydd wedi llwyddo i ddianc: i Tarshish, at y Libiaid a'r Lydiaid (y rhai sy'n defnyddio bwa saeth); i Twbal, Groeg, a'r ynysoedd pell sydd heb glywed sôn amdana i na gweld fy ysblander i. Byddan nhw'n dweud wrth y cenhedloedd am fy ysblander i.

20. A byddan nhw'n dod â'ch perthnasau o'r gwledydd i gyd yn offrwm i'r ARGLWYDD. Dod â nhw ar gefn ceffylau, mewn wagenni a throlïau, ar gefn mulod a chamelod, i Jerwsalem, fy mynydd sanctaidd”—meddai'r ARGLWYDD—“yn union fel mae pobl Israel yn dod ag offrwm o rawn i deml yr ARGLWYDD mewn llestr glân.

21. A bydda i'n dewis rhai ohonyn nhw i fod yn offeiriaid ac yn Lefiaid,” meddai'r ARGLWYDD.

22. “Fel y bydd y nefoedd newydd a'r ddaear newydddw i'n mynd i'w gwneud yn aros am byth o'm blaen i”—meddai'r ARGLWYDD—“felly y bydd eich plant a'ch enw chi yn aros.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 66