Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 65:4-12 beibl.net 2015 (BNET)

4. yn eistedd yng nghanol beddau,ac yn treulio'r nos mewn mannau cudd;yn bwyta cig mocha phowlenni o gawl gyda cig aflan ynddo;

5. neu'n dweud, ‘Cadw draw!dw i'n rhy lân i ti ddod yn agos ata i!’Mae pobl fel yna yn gwneud i mi wylltio,mae fel tân sy'n llosgi heb stopio.

6. Edrychwch! Mae wedi ei gofnodi o'm blaen i!Dw i ddim am ei ddiystyru –dw i'n mynd i dalu'n ôl yn llawn!Talu'n ôl i bob un ohonyn nhw am eu pechodau,

7. a phechodau eu hynafiaid hefyd.”—meddai'r ARGLWYDD—“Roedden nhw'n llosgi arogldarth ar y mynyddoedd,ac yn fy enllibio i ar y bryniau.Bydda i'n talu'n ôl iddyn nhw'n llawnam bopeth wnaethon nhw o'r dechrau cyntaf!”

8. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Fel mae sudd da mewn swp o rawnwin,a rhywun yn dweud, ‘Paid difetha fe; mae daioni ynddo,’felly y bydda i'n gwneud er mwyn fy ngweision –fydda i ddim yn eu dinistrio nhw i gyd.

9. Bydda i'n rhoi disgynyddion i Jacob,a pobl i etifeddu fy mynyddoedd yn Jwda.Bydd y rhai dw i wedi eu dewis yn eu feddiannu,a bydd fy ngweision yn byw yno.

10. Bydd Saron yn borfa i ddefaid,a Dyffryn Achor, sy'n le i wartheg orwedd,yn eiddo i'r bobl sy'n fy ngheisio i.

11. Ond chi sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD,a diystyru fy mynydd cysegredig i;chi sy'n gosod bwrdd i'r duw ‘Ffawd,’ac yn llenwi cwpanau o win i'r duw ‛Tynged‛.

12. Dw i'n eich condemnio i gael eich lladd gan y cleddyf!Byddwch chi'n penlinio i gael eich dienyddio –achos roeddwn i'n galw, a wnaethoch chi ddim ateb;roeddwn i'n siarad, a wnaethoch chi ddim gwrando.Roeddech chi'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu,ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 65