Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 65:20-25 beibl.net 2015 (BNET)

20. Fydd babis bach ddim yn marw'n ifanc,na phobl mewn oed yn marw'n gynnar.Bydd rhywun sy'n marw yn gant oedyn cael ei ystyried yn llanc ifanc,a'r un sy'n marw heb gyrraedd y cantyn cael ei ystyried dan felltith.

21. Byddan nhw'n adeiladu tai ac yn byw ynddyn nhw;byddan nhw'n plannu gwinllannoedd ac yn bwyta eu ffrwyth.

22. Fyddan nhw ddim yn adeiladu tai i rywun arall fyw ynddyn nhw,nac yn plannu i rywun arall fwyta'r ffrwyth.Bydd fy mhobl yn byw mor hir â choeden;bydd y rhai dw i wedi eu dewisyn cael mwynhau'n llawn waith eu dwylo.

23. Fyddan nhw ddim yn gweithio'n galed i ddim byd;fyddan nhw ddim yn magu plant i'w colli.Byddan nhw'n bobl wedi eu bendithio gan yr ARGLWYDD,a'u plant gyda nhw hefyd.

24. Bydda i'n ateb cyn iddyn nhw alw arna i;bydda i wedi clywed cyn iddyn nhw orffen siarad.

25. Bydd y blaidd a'r oen yn pori gyda'i gilydd,a bydd y llew yn bwyta gwellt fel ych;ond llwch y ddaear fydd bwyd y neidr.Fyddan nhw'n gwneud dim drwg na niwedyn fy mynydd cysegredig i.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 65