Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 65:10-19 beibl.net 2015 (BNET)

10. Bydd Saron yn borfa i ddefaid,a Dyffryn Achor, sy'n le i wartheg orwedd,yn eiddo i'r bobl sy'n fy ngheisio i.

11. Ond chi sydd wedi troi cefn ar yr ARGLWYDD,a diystyru fy mynydd cysegredig i;chi sy'n gosod bwrdd i'r duw ‘Ffawd,’ac yn llenwi cwpanau o win i'r duw ‛Tynged‛.

12. Dw i'n eich condemnio i gael eich lladd gan y cleddyf!Byddwch chi'n penlinio i gael eich dienyddio –achos roeddwn i'n galw, a wnaethoch chi ddim ateb;roeddwn i'n siarad, a wnaethoch chi ddim gwrando.Roeddech chi'n gwneud pethau oeddwn i'n eu casáu,ac yn dewis pethau oedd ddim yn fy mhlesio.”

13. Felly dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd fy ngweision yn bwyta, a chi'n llwgu.Bydd fy ngweision yn yfed, a chi'n sychedu.Bydd fy ngweision yn llawen, a chi'n cael eich cywilyddio.

14. Bydd fy ngweision yn canu'n braf, a chi'n wylo mewn poen,ac yn griddfan mewn gwewyr meddwl.

15. Bydd eich enw yn cael ei ddefnyddio fel melltithgan y rhai dw i wedi eu dewis.Bydd y Meistr, yr ARGLWYDD, yn dy ladd di!Ond bydd enw hollol wahanol gan ei weision.

16. Bydd pwy bynnag drwy'r byd sy'n derbyn bendithyn ei gael wrth geisio bendith gan y Duw ffyddlon;a'r sawl yn unman sy'n tyngu llw o ffyddlondebyn ei gael wrth dyngu llw i enw'r Duw ffyddlon.Bydd trafferthion y gorffennol yn cael eu hanghofio,ac wedi eu cuddio o'm golwg.

17. Achos dw i'n mynd i greunefoedd newydd a daear newydd!Bydd pethau'r gorffennol wedi eu hanghofio;fyddan nhw ddim yn croesi'r meddwl.

18. Ie, dathlwch a mwynhau am bythyr hyn dw i'n mynd i'w greu.Achos dw i'n mynd i greuJerwsalem i fod yn hyfrydwch,a'i phobl yn rheswm i ddathlu.

19. Bydd Jerwsalem yn hyfrydwch i mi,a'm pobl yn gwneud i mi ddathlu.Fydd sŵn crïo a sgrechianddim i'w glywed yno byth eto.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 65