Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 65:1-4 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Roeddwn yno i rai oedd ddim yn gofyn amdana i;dangosais fy hun i rai oedd ddim yn chwilio amdana i.Dywedais, ‘Dyma fi! Dyma fi!’wrth wlad oedd ddim yn galw ar fy enw.

2. Bues i'n estyn fy llaw drwy'r amserat bobl oedd yn gwrthryfela;pobl yn gwneud beth oedd ddim yn dda,ac yn dilyn eu mympwy eu hunain.

3. Roedden nhw yn fy nigio o hyd ac o hyd –yn aberthu yn y gerddi paganaiddac yn llosgi aberthau ar allor frics;

4. yn eistedd yng nghanol beddau,ac yn treulio'r nos mewn mannau cudd;yn bwyta cig mocha phowlenni o gawl gyda cig aflan ynddo;

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 65