Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 63:7-19 beibl.net 2015 (BNET)

7. Dw i'n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy'r ARGLWYDD,a dw i'n mynd i ganu ei glod –am y cwbl mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud i ni,a'r holl bethau da mae e wedi eu gwneud i bobl Israel.Mae e mor drugarog ac mor hael!

8. Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw,plant fydd ddim yn anffyddlon.”Felly dyma fe'n eu hachub nhw.

9. Pan oedden nhw'n diodde roedd e'n diodde hefyd,a dyma fe'n anfon ei angel i'w hachub.Yn ei gariad a'i drugaredd,daeth i'w gollwng nhw'n rhydd.Cododd nhw, a'u cario nhwar hyd y cyfnod hwnnw.

10. Ond dyma nhw'n gwrthryfela,ac yn tristáu ei Ysbryd Glân.Felly trodd yn elyn iddyn nhw,ac ymladd yn eu herbyn nhw.

11. Yna dyma fe'n cofio'r hen ddyddiau –Moses … a'i bobl!Ble mae'r Un ddaeth â nhw drwy'r Môrgyda bugeiliaid ei braidd?Ble mae'r Un wnaeth roiei Ysbryd Glân yn eu plith nhw –

12. yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses?Ble mae'r Un wnaeth hollti'r môr o'u blaenaua gwneud enw iddo'i hun am byth?

13. Ble mae'r Un wnaeth eu harwain nhw drwy'r dyfnderfel ceffyl yn carlamu ar dir agored?

14. Rhoddodd Ysbryd yr ARGLWYDD orffwys iddyn nhw,fel gwartheg yn mynd i lawr i'r dyffryn.Dyna sut wnest ti arwain dy bobla gwneud enw gwych i ti dy hun!

15. Edrych i lawr o'r nefoedd,o'r lle sanctaidd a hardd ble rwyt ti'n byw!Ble mae dy sêl a dy nerth di bellach?Ble mae hiraeth dy galon a dy gariad?Paid dal yn ôl,

16. achos ti ydy'n Tad ni!Hyd yn oed petai Abraham ddim yn cymryd sylw,ac Israel ddim yn ein nabod ni,ti ydy'n Tad ni, O ARGLWYDD!Ti ydy'r Un sy'n ein rhyddhau ni! –dyna dy enw di ers y dyddiau hynny.

17. ARGLWYDD, pam wyt ti wedi gadael i ni grwydrooddi ar dy ffyrdd di?Pam wyt ti wedi'n gwneud ni'n ystyfnignes ein bod ddim yn dy barchu di?Maddau i ni, er mwyn dy weision,dy lwythau di dy hun!

18. Cafodd dy bobl feddiannu'r tir am gyfnod byr,ond wedyn sathrodd dy elynion dy gysegr dan draed.

19. Ni oedd dy bobl di o'r dechrau –wnest ti erioed lywodraethu drostyn nhw,a gawson nhw erioed eu henwi ar dy ôl di.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 63