Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 63:2-12 beibl.net 2015 (BNET)

2. Pam mae dy ddillad yn goch?Maen nhw fel dillad un sy'n sathru grawnwin.

3. “Dw i wedi sathru'r grawnwin fy hun;doedd neb o gwbl gyda fi.Sethrais nhw yn fy llid,a'i gwasgu dan draed yn fy nicter,nes i'w gwaed nhw sblasio ar fy nillad;dw i wedi staenio fy nillad i gyd.

4. Roedd y diwrnod i ddial ar fy meddwl,a'r flwyddyn i ollwng yn rhydd wedi dod.

5. Pan edrychais, doedd neb yno i helpu;ron i'n synnu fod neb yno i roi cymorth.Felly dyma fi'n mynd ati i achub,a'm dicter yn fy ngyrru ymlaen.

6. Sethrais genhedloedd yn fy llid,a'u meddwi nhw gyda fy nig,a thywallt eu gwaed ar lawr.”

7. Dw i'n mynd i atgoffa pobl mor hael a charedig ydy'r ARGLWYDD,a dw i'n mynd i ganu ei glod –am y cwbl mae'r ARGLWYDD wedi ei wneud i ni,a'r holl bethau da mae e wedi eu gwneud i bobl Israel.Mae e mor drugarog ac mor hael!

8. Meddyliodd: “Fy mhobl i ydyn nhw,plant fydd ddim yn anffyddlon.”Felly dyma fe'n eu hachub nhw.

9. Pan oedden nhw'n diodde roedd e'n diodde hefyd,a dyma fe'n anfon ei angel i'w hachub.Yn ei gariad a'i drugaredd,daeth i'w gollwng nhw'n rhydd.Cododd nhw, a'u cario nhwar hyd y cyfnod hwnnw.

10. Ond dyma nhw'n gwrthryfela,ac yn tristáu ei Ysbryd Glân.Felly trodd yn elyn iddyn nhw,ac ymladd yn eu herbyn nhw.

11. Yna dyma fe'n cofio'r hen ddyddiau –Moses … a'i bobl!Ble mae'r Un ddaeth â nhw drwy'r Môrgyda bugeiliaid ei braidd?Ble mae'r Un wnaeth roiei Ysbryd Glân yn eu plith nhw –

12. yr Un wnaeth roi ei nerth i Moses?Ble mae'r Un wnaeth hollti'r môr o'u blaenaua gwneud enw iddo'i hun am byth?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 63