Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 62:8-12 beibl.net 2015 (BNET)

8. Mae'r ARGLWYDD wedi tyngu llw i'w gryfder:“Dw i ddim yn mynd i roi dy ŷdyn fwyd i dy elynion byth eto!A fydd plant estroniaid ddim yn yfed y gwinwnest ti weithio mor galed amdano.

9. Bydd y rhai sy'n medi'r cynhaeaf yn ei fwytaac yn moli'r ARGLWYDD.A bydd y rhai sy'n casglu'r grawnwinyn yfed y sudd yn fy nghysegr sanctaidd.”

10. Dowch i mewn! Dowch i mewn drwy'r giatiau!Cliriwch y ffordd i'r bobl ddod!Adeiladwch! Adeiladwch briffordd!Symudwch bob carreg sy'n rhwystr!Codwch faner dros y bobloedd!

11. Mae'r ARGLWYDD wedi cyhoeddi hyndrwy'r byd i gyd:“Dwedwch wrth Seion annwyl,‘Edrych! Mae dy Achubwr yn dod!Edrych! Mae ei wobr ganddo;mae'n dod a'i roddion o'i flaen.’”

12. Byddan nhw'n cael eu galw, “Y Bobl Sanctaidd.Pobl Rydd yr ARGLWYDD.”A byddi di, Jerwsalem, yn cael dy alw,“Yr un gafodd ei cheisio,”“Dinas heb ei gwrthod.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 62