19. Fydd dim angen yr haul i oleuo'r dydd,na llewyrch y lleuad yn olau yn y nos.Yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth,a bydd ysblander dy Dduw yn disgleirio arnat.
20. Fydd dy haul ddim yn machlud byth mwy,a llewyrch y lleuad ddim yn cilio;yr ARGLWYDD fydd dy olau di am byth,a bydd dy gyfnod o alaru drosodd.
21. Bydd dy bobl i gyd yn gyfiawn,ac yn etifeddu'r tir am byth.Nhw ydy'r blagur dw i wedi ei blannu,gwaith fy llaw sy'n fy anrhydeddu.
22. Bydd yr un fechan yn troi yn llwyth;a'r lleiaf yn troi'n genedl fawr.Fi ydy'r ARGLWYDD!Pan ddaw'r amser iawn bydda i'n gwneud hyn ar frys!”