Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 60:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Cod! Disgleiria! Mae dy olau wedi dod.Mae ysblander yr ARGLWYDD wedi gwawrio arnat!

2. Er bod tywyllwch yn gorchuddio'r ddaear,a thywyllwch dudew dros y gwledydd;bydd yr ARGLWYDD yn tywynnu arnat ti,a bydd ei ysblander i'w weld arnat.

3. Bydd cenhedloedd yn dod at dy oleuni,a brenhinoedd yn troi at dy wawr ddisglair.

4. Edrych o dy gwmpas!Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti!Bydd dy feibion yn dod o wledydd pell,a dy ferched yn cael eu cario adre.

5. Pan weli hyn byddi'n wên i gyd;bydd dy galon yn curo wrth brofi'r wefr.Bydd cyfoeth y moroedd yn cael ei roi i ti,a cyfoeth y gwledydd yn dod atat.

6. Bydd gyrroedd o gamelod yn llenwi dy strydoedd;camelod o Midian, Effa a Sheba.Byddan nhw'n cario aur a thus,ac yn canu mawl i'r ARGLWYDD.

7. Bydd holl ddefaid a geifr Cedar yn cael eu casglu atat,a bydd hyrddod Nebaioth yna i ti eu defnyddio;byddan nhw'n aberthau derbyniol ar fy allor i.Bydda i'n gwneud fy nhÅ· hardd yn harddach fyth!

8. Pwy ydy'r rhain sy'n symud fel cwmwl,ac yn hedfan fel colomennod i'w nythod?

9. Mae cychod yr ynysoedd yn ymgasglu,a llongau masnach Tarshish ar y blaen.Maen nhw'n dod â dy blant o bell,a'u harian a'u haur hefo nhw,i'w gyflwyno i'r ARGLWYDD dy Dduw –Un Sanctaidd Israel, sydd wedi dy anrhydeddu.

10. Bydd estroniaid yn ailadeiladu dy waliau,a'u brenhinoedd nhw yn dy wasanaethu di.Achos, er fy mod wedi dy daro di pan oeddwn i'n ddigdw i am ddangos tosturi a bod yn garedig.

11. Bydd dy giatiau ar agor drwy'r amser;fyddan nhw ddim yn cael eu cau ddydd na nos –er mwyn i gyfoeth y cenhedloedda'u brenhinoedd gael ei gario i mewn.

12. Bydd y wlad neu'r deyrnassy'n gwrthod dy wasanaethu yn syrthio;bydd y gwledydd hynny'n cael eu dinistrio'n llwyr.

13. Bydd coed gorau Libanus yn dod i ti –coed cypres, planwydd a pinwydd i harddu fy nghysegr,ac anrhydeddu'r lle mae fy nhraed i'n gorffwys.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 60