Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 6:2-9 beibl.net 2015 (BNET)

2. Roedd seraffiaid yn hofran uwch ei ben, ac roedd gan bob un ohonyn nhw chwe adain: dwy i guddio'i wyneb, dwy i guddio'i goesau, a dwy i hedfan.

3. Ac roedd un yn galw ar y llall, ac yn dweud,“Sanctaidd! Sanctaidd! Sanctaidd!yr ARGLWYDD holl-bwerus!Mae ei ysblander yn llenwi'r ddaear gyfan!”

4. Roedd sylfeini ffrâm y drws yn ysgwyd wrth iddyn nhw alw, a'r neuadd yn llenwi gyda mwg.

5. Gwaeddais yn uchel, “Gwae fi! Mae hi ar ben arna i! Dyn gyda gwefusau aflan ydw i, a dw i'n byw yng nghanol pobl gyda gwefusau aflan; ac eto dw i wedi gweld y Brenin gyda'm llygaid fy hun – yr ARGLWYDD holl-bwerus.”

6. Yna dyma un o'r seraffiaid yn hedfan ata i, ac roedd ganddo farworyn poeth wedi ei gymryd oddi ar yr allor mewn gefel.

7. Cyffyrddodd fy ngwefusau gydag e, a dweud, “Edrych, mae hwn wedi cyffwrdd dy wefusau di, felly mae dy euogrwydd di wedi mynd, a talwyd iawn am dy bechod.”

8. Yna clywais lais fy Arglwydd yn dweud: “Pwy dw i'n mynd i'w anfon? Pwy sy'n barod i fynd ar ein rhan ni?” A dyma fi'n dweud, “Dyma fi; anfon fi.”

9. Yna dwedodd, “Dos, a dweud wrth y bobl yma:‘Gwrandwch yn astud, ond peidiwch â deall;Edrychwch yn ofalus, ond peidiwch â dirnad.’

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 6