Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 59:11-21 beibl.net 2015 (BNET)

11. Dŷn ni i gyd yn chwyrnu'n ddig fel eirthneu'n cwyno a cŵan fel colomennod.Dŷn ni'n edrych am gyfiawnder, ond ddim yn ei gael;am achubiaeth, ond mae allan o'n cyrraedd.

12. Dŷn ni wedi gwrthryfela mor aml yn dy erbyn di,mae'n pechodau yn tystio yn ein herbyn ni.Y gwir ydy, dŷn ni'n dal i wrthryfela,a dŷn ni'n gwybod yn iawn ein bod wedi methu:

13. Gwrthryfela, gwadu'r ARGLWYDDa throi cefn ar Dduw.Cymryd mantais anghyfiawn, bradychu,a palu celwyddau!

14. Felly mae'r hyn sy'n iawn yn cael ei wthio i ffwrdda chyfiawnder yn cadw draw.Mae gwirionedd yn baglu yn y gymdeithas,a gonestrwydd yn methu dod i mewn.

15. Mae gwirionedd wedi diflannu,ac mae'r un sy'n troi cefn ar ddrwg yn cael ei ysbeilio.Pan welodd yr ARGLWYDD fod dim cyfiawnderroedd yn anhapus iawn.

16. Pan welodd nad oedd neb o gwbl yn ymyrryd,roedd yn arswydo.Ond yna, dyma fe'i hun yn mynd ati i achub,a'i gyfiawnder yn ei yrru'n ei flaen.

17. Gwisgodd gyfiawnder fel arfwisg,ac achubiaeth yn helmed ar ei ben.Rhoddodd ddillad dial amdano,a gwisgo sêl fel mantell.

18. Bydd yn rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu –llid i'r rhai sydd yn ei wrthwynebu, a chosb i'w elynion;bydd yn talu'n ôl yn llawn i ben draw'r byd.

19. Bydd pobl o'r gorllewin yn parchu enw'r ARGLWYDD,a phobl o'r dwyrain yn gweld ei ysblander.Bydd e'n dod fel afon sy'n llifo'n gryf,ac ysbryd yr ARGLWYDD yn ei yrru yn ei flaen.

20. “Bydd e'n dod i Jerwsalem i ollwng yn rhydd,ac at y rhai yn Jacob sy'n troi cefn ar eu gwrthryfel,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

21. Dyma fy ymrwymiad i iddyn nhw, meddai'r ARGLWYDD: “Bydd fy Ysbryd i arnat ti, a fydd y neges dw i wedi ei rhoi i ti ddim yn dy adael di; byddi di a dy blant, a phlant dy blant, yn ei chofio o hyn allan ac am byth.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 59