Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 58:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Gwaedda mor uchel ag y medri di, heb ddal yn ôl;Cod dy lais fel sain corn hwrdd!Dywed wrth fy mhobl eu bod nhw wedi gwrthryfela,ac wrth bobl Jacob eu bod nhw wedi pechu.

2. Maen nhw'n troi ata i bob dydd,ac yn awyddus i ddysgu am fy ffyrdd.Maen nhw'n ôl pob golwg yn genedl sy'n gwneud beth sy'n iawnac sydd heb droi cefn ar ddysgeidiaeth eu Duw.Maen nhw'n gofyn i mi am y ffordd iawn,ac yn awyddus i glosio at Dduw.

3. ‘Pam oeddet ti ddim yn edrychpan oedden ni'n ymprydio?’ medden nhw,‘Pam oeddet ti ddim yn cymryd sylwpan oedden ni'n cosbi ein hunain?’Am eich bod chi'n ymprydio i blesio'ch hunainac yn cam-drin eich gweithwyr yr un pryd!

4. Dych chi'n ymprydio i ffraeo a ffustio,Dim dyna'r ffordd i ymprydioos ydych chi eisiau i Dduw wrando.

5. Ai dyma sut ymprydio dw i eisiau? –diwrnod pan mae pobl yn llwgu eu hunain,ac yn plygu eu pennau fel planhigyn sy'n gwywo?Diwrnod i orwedd ar sachliain a lludw?Ai dyna beth wyt ti'n ei alw'n ymprydio,yn ddiwrnod sy'n plesio'r ARGLWYDD?

6. Na, dyma'r math o ymprydio dw i eisiau:cael gwared â chadwyni anghyfiawnder;datod rhaffau'r iau,a gollwng y rhai sy'n cael eu gormesu yn rhydd;dryllio popeth sy'n rhoi baich ar bobl.

7. Rhannu dy fwyd gyda'r newynog,rhoi lle i fyw i'r rhai tlawd sy'n ddigartrefa rhoi dillad i rywun rwyt yn ei weld yn noeth.Peidio ceisio osgoi gofalu am dy deulu.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 58