Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 55:9-13 beibl.net 2015 (BNET)

9. Fel mae'r nefoedd gymaint uwch na'r ddaear,mae fy ffyrdd i yn uwch na'ch ffyrdd chi,a'm bwriadau i yn well na'ch bwriadau chi.

10. Ond fel y glaw a'r eira sy'n disgyn o'r awyra ddim yn mynd yn ôl nes dyfrio'r ddaeargan wneud i blanhigion dyfua rhoi hadau i'w hau a bwyd i'w fwyta,

11. felly mae'r neges dw i'n ei chyhoeddi:dydy hi ddim yn dod yn ôl heb wneud ei gwaith –mae'n gwneud beth dw i eisiau,ac yn llwyddo i gyflawni ei phwrpas.

12. Ie, byddwch chi'n mynd allan yn llawenac yn cael eich arwain mewn heddwch.Bydd y mynyddoedd a'r bryniau yn bloeddio canu o'ch blaen,a'r coed i gyd yn curo dwylo.

13. Bydd coed pinwydd yn tyfu yn lle drain,a llwyni myrtwydd yn lle mieri.Byddan nhw'n sefyll yno i atgoffa pobl am yr ARGLWYDD,fel arwydd parhaol fydd ddim yn cael ei dynnu i lawr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 55