Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 55:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Hei! Os oes syched arnoch chi, dewch at y dŵr!Os nad oes gynnoch chi arian, dewch beth bynnag!Prynwch a bwytwch.Dewch! Prynwch win a llaeth heb arian – mae am ddim!

2. Pam gwario'ch arian ar rywbeth sydd ddim yn fwyd,a'ch cyflog ar rywbeth sydd ddim yn bodloni?Gwrandwch yn ofalus arna i!Cewch fwyta bwyd blasus, a mwynhau danteithion.

3. Gwrandwch arna i, a dewch yma.Os gwnewch chi wrando, cewch fyw!Bydda i'n gwneud ymrwymiad hefo chifydd yn para am byth –fel y bendithion sicr wnes i eu haddo i Dafydd.

4. Gwnes i e yn dyst i bobloedd,yn arweinydd yn rheoli gwledydd.”

5. Byddi di'n galw ar genedl wyt ti ddim yn ei nabod,a bydd cenedl sydd ddim yn dy nabod diyn rhedeg atat ti – o achos yr ARGLWYDD dy Dduw,Un Sanctaidd Israel sydd wedi dy anrhydeddu di.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 55