Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 54:4-12 beibl.net 2015 (BNET)

4. Paid bod ag ofn, gei di ddim dy wrthod.Paid synnu, gei di ddim dy siomi!Byddi'n anghofio cywilydd dy ieuenctid,ac yn cofio dim am warth dy gyfnod fel gweddw.

5. Mae'r un wnaeth dy greu di wedi dy briodi di! –yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e.Bydd Un Sanctaidd Israel yn dy ollwng di'n rhydd –ie, ‘Duw yr holl daear’.

6. Mae'r ARGLWYDD yn dy alw di yn ôl! –fel gwraig oedd wedi ei gadael ac yn anobeithio;gwraig ifanc oedd wedi ei hanfon i ffwrdd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

7. “Gwrthodais di am ennyd fach,ond gyda thosturi mawr bydda i'n dod â ti'n ôl.

8. Ro'n i wedi gwylltio am foment,ac wedi troi i ffwrdd oddi wrthot ti.Ond gyda chariad sy'n para am bythbydda i'n garedig atat ti eto,”—meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy ollwng di'n rhydd.

9. “Mae'r un fath â'r dilyw yng nghyfnod Noa:Fel gwnes i addo bryd hynnyna fyddai'r ddaear yn cael ei boddi byth eto,Dw i'n addo i china fydda i'n ddig hefo chi, nac yn eich cosbi eto.

10. Falle y bydd y mynyddoedd yn symuda'r bryniau yn cael eu hysgwyd,ond bydd fy nghariad i atoch chi yn aros,a fydd fy ymrwymiad heddwch ddim yn siglo,”—meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy garu di.

11. “Ti sydd mor druenus, wedi dy darogan stormydd a heb dy gysuro!Dw i'n mynd i osod dy gerrig mewn morter glas,a defnyddio saffir fel dy sylfeini.

12. Bydda i'n gwneud dy dyrau o emau,dy giatiau o risial coch,a bydd dy waliau i gyd yn feini gwerthfawr.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 54