Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 54:10-17 beibl.net 2015 (BNET)

10. Falle y bydd y mynyddoedd yn symuda'r bryniau yn cael eu hysgwyd,ond bydd fy nghariad i atoch chi yn aros,a fydd fy ymrwymiad heddwch ddim yn siglo,”—meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy garu di.

11. “Ti sydd mor druenus, wedi dy darogan stormydd a heb dy gysuro!Dw i'n mynd i osod dy gerrig mewn morter glas,a defnyddio saffir fel dy sylfeini.

12. Bydda i'n gwneud dy dyrau o emau,dy giatiau o risial coch,a bydd dy waliau i gyd yn feini gwerthfawr.

13. Bydd pob un o dy blant yn cael eu dysgu gan yr ARGLWYDD,a bydd dy blant yn profi heddwch mawr.

14. Byddi wedi dy sylfaenu ar gyfiawnder,a fyddi di ddim yn cael dy orthrymu.Fydd dim rhaid i ti fod ag ofn,a fydd dychryn ddim yn dod yn agos atat ti.

15. Os bydd rhywun eisiau ymladd hefo ti,nid fi fydd tu ôl i hynny:Bydd pwy bynnag sydd eisiau ymladd hefo tiyn syrthio, am mai ti wyt ti.

16. Os fi wnaeth greu y gofsy'n chwythu'r tân marwor gyda'i fegin,i wneud offer ar gyfer ei waith;fi hefyd sy'n creu y dinistriwr i ddinistrio.

17. Ond fydd yr arfau sydd wedi eu llunio i dy daro diddim yn llwyddo,a bydd y rhai sy'n codi i dystio yn dy erbynyn cael eu condemnio.Dyna ydy etifeddiaeth gweision yr ARGLWYDD,a'r hyn dw i wedi ei wneud iddyn nhw.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 54