Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 54:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. “Cân yn llawen, ti sy'n methu cael plant,ac sydd erioed wedi geni plentyn!Bloeddia ganu'n llawen,ti sydd heb brofi poenau wrth eni plentyn!Bydd gan y wraig sydd ar ei phen ei hunfwy o blant na'r wraig sydd wedi priodi.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

2. “Gwna fwy o le i dy babell,a lledu'r llenni lle rwyt ti'n byw!Estyn nhw allan! Paid dal yn ôl!Gwna'r rhaffau'n hirach, rho'r pegiau'n sownd.

3. Byddi'n ymledu allan i bob cyfeiriad!Bydd dy ddisgynyddion yn meddiannu gwledydd eraill,ac yn byw mewn dinasoedd gafodd eu gadael yn adfeilion.

4. Paid bod ag ofn, gei di ddim dy wrthod.Paid synnu, gei di ddim dy siomi!Byddi'n anghofio cywilydd dy ieuenctid,ac yn cofio dim am warth dy gyfnod fel gweddw.

5. Mae'r un wnaeth dy greu di wedi dy briodi di! –yr ARGLWYDD holl-bwerus ydy ei enw e.Bydd Un Sanctaidd Israel yn dy ollwng di'n rhydd –ie, ‘Duw yr holl daear’.

6. Mae'r ARGLWYDD yn dy alw di yn ôl! –fel gwraig oedd wedi ei gadael ac yn anobeithio;gwraig ifanc oedd wedi ei hanfon i ffwrdd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

7. “Gwrthodais di am ennyd fach,ond gyda thosturi mawr bydda i'n dod â ti'n ôl.

8. Ro'n i wedi gwylltio am foment,ac wedi troi i ffwrdd oddi wrthot ti.Ond gyda chariad sy'n para am bythbydda i'n garedig atat ti eto,”—meddai'r ARGLWYDD, sy'n dy ollwng di'n rhydd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 54