Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 53:4-10 beibl.net 2015 (BNET)

4. Ac eto, cymerodd ein salwch ni arno'i hun,a diodde ein poenau ni yn ein lle.Roedden ni'n meddwl ei fod yn cael ei gosbi,a'i guro a'i gam-drin gan Dduw.

5. Do, cafodd ei anafu am ein bod ni wedi gwrthryfela,cafodd ei sathru am ein bod ni ar fai.Cafodd ei gosbi i wneud pethau'n iawn i ni;ac am iddo fe gael ei guro cawson ni ein hiacháu.

6. Dŷn ni i gyd wedi crwydro fel defaid –pob un wedi mynd ei ffordd ei hun;ond mae'r ARGLWYDD wedi rhoiein pechod ni i gyd arno fe.

7. Cafodd ei gam-drin a'i boenydio,ond wnaeth e ddweud dim;fel oen yn cael ei arwain i'r lladd-dy.Yn union fel mae dafad yn dawel pan mae'n cael ei chneifio,wnaeth e ddweud dim.

8. Cafodd ei gymryd i ffwrdd heb achos llys teg –a pwy oedd yn malio beth oedd yn digwydd iddo?Cafodd ei dorri i ffwrdd o dir y byw,a'i daro am fod fy mhobl i wedi gwrthryfela.

9. Y bwriad oedd ei gladdu gyda throseddwyr,ond cafodd fedd un cyfoethog.Roedd wedi gweithredu'n ddi-drais,a ddim wedi twyllo neb.

10. Ac eto, yr ARGLWYDD wnaeth benderfynu ei gleisio,ac achosi iddo ddiodde.Wrth roi ei hun yn offrwm dros bechod,bydd yn gweld ei blant ac yn cael byw yn hir.Bydd yn cyflawni bwriadau'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 53