Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 5:10-22 beibl.net 2015 (BNET)

10. Bydd deg acer o winllanyn rhoi llai na chwe galwyn o win;a chae lle heuwyd deg mesur o hadyn rhoi ond un mesur yn ôl.

11. Gwae'r rhai sy'n codi'n fore i yfed diod feddwol,ac yn aros ar eu traed gyda'r nosdan ddylanwad gwin.

12. Y rhai sy'n cael partïongyda'r delyn a'r nabl,y drwm a'r pib – a gwin!Ond sy'n cymryd dim sylw o'r ARGLWYDD,nac yn gweld beth mae'n ei wneud.

13. Felly,bydd fy mhobl yn cael eu caethgludoam beidio cymryd sylw.Bydd y bobl fawr yn marw o newyn,a'r werin yn gwywo gan syched.

14. Bydd chwant bwyd ar fyd y meirw,bydd yn agor ei geg yn anferth,a bydd ysblander Jerwsalem a'i chyffro,ei sŵn a'i sbri yn llithro i lawr iddo.

15. Bydd pobl yn cael eu darostwnga pawb yn cywilyddio;bydd llygaid y balch wedi syrthio.

16. Ond bydd yr ARGLWYDD holl-bweruswedi ei ddyrchafu trwy ei gyfiawnder;a'r Duw sanctaiddwedi profi ei fod yn sanctaidd drwy ei degwch.

17. Bydd ŵyn yn pori yno fel yn eu cynefin,a chrwydriaid yn bwyta yn adfeilion y cyfoethog.

18. Gwae'r rhai sy'n llusgo drygioni gyda rhaffau twyll,a llusgo pechod ar eu holau fel trol!

19. Y rhai sy'n dweud,“Gadewch iddo wneud rhywbeth yn sydyn,i ni gael gweld;Gadewch i ni weld pwrpas Un Sanctaidd Israel,i ni gael gwybod beth ydy e!”

20. Gwae'r rhai sy'n galw drwg yn ddaa da yn ddrwg;sy'n dweud fod tywyllwch yn olaua golau yn dywyllwch;sy'n galw'r chwerw yn felysa'r melys yn chwerw!

21. Gwae'r rhai sy'n meddwl eu bod nhw'n ddoeth,ac yn ystyried eu hunain mor glyfar!

22. Gwae'r rhai sy'n arwyr wrth yfed gwin –ac yn meddwl eu bod nhw'n rêl bois wrth gymysgu'r diodydd!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 5