Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 49:9-20 beibl.net 2015 (BNET)

9. Byddi'n dweud wrth garcharorion, ‘Cewch fod yn rhydd,’ac wrth y rhai sy'n y tywyllwch, ‘Dewch i'r golwg.’Byddan nhw fel defaid yn pori ar ochr y ffyrdd,ac yn cael porfa ar lethrau'r bryniau.

10. Fydd dim syched nag eisiau bwyd arnyn nhw;fydd y gwynt poeth a'r haul ddim yn eu taro nhw.Achos bydd yr un sy'n eu caru nhw yn eu harwain,ac yn mynd â nhw at ffynhonnau o ddŵr.

11. Bydda i'n gwneud y mynyddoedd yn ffordd agored,ac yn adeiladu priffyrdd amlwg.”

12. Edrychwch! Mae rhai yn dod o bell.Edrychwch! Mae rhai yn dod o'r gogledd,eraill o'r gorllewin, a rhai o wlad Sinim.

13. Cân nefoedd, a dathla, ddaear!Torrwch allan i ganu'n llawen, fynyddoedd!Achos mae'r ARGLWYDD wedi cysuro ei bobl,ac wedi tosturio wrth y rhai fu'n dioddef.

14. “Dwedodd Seion, ‘Mae'r ARGLWYDD wedi troi cefn arna i;mae fy Meistr wedi fy anghofio i.’

15. Ydy gwraig yn gallu anghofio'r babi ar ei bron?Ydy hi'n gallu peidio dangos tosturi at ei phlentyn?Hyd yn oed petaen nhw yn anghofio,fyddwn i'n sicr ddim dy anghofio di!

16. Dw i wedi cerfio dy enw ar gledrau fy nwylo!Wna i byth golli golwg ar dy waliau di.

17. Bydd dy adeiladwyr yn gweithio'n gyflymachna'r rhai wnaeth dy ddinistrio di;mae'r rhai achosodd y fath lanast wedi mynd!

18. Edrych o dy gwmpas!Maen nhw i gyd yn ymgasglu! Maen nhw'n dod atat ti!Mor sicr â'r ffaith fy mod i'n fyw,”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn—“byddi di'n eu gwisgo nhw fel gemau,ac fel priodferch yn ei gwisg briodas.

19. Er dy fod wedi dy daro,dy ddifetha a dy ddinistrio fel gwlad,bellach fydd dim digon o le i bawb sydd am fyw ynot ti,a bydd y rhai wnaeth dy ddinistrio yn bell i ffwrdd.

20. Bydd y plant gafodd eu geni yn y cyfnod o golledyn dweud yn dy glyw di,‘Mae hi'n rhy gyfyng yn y lle yma;symudwch i wneud lle i ni!’

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 49