Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 49:6-12 beibl.net 2015 (BNET)

6. Yna dwedodd, “Mae'n beth rhy fach i ti fod yn was i midim ond i godi llwythau Jacob ar eu traedac adfer yr ychydig rai fydd ar ôl yn Israel.Bydda i'n dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd,er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.”

7. Dyma mae'r ARGLWYDD – sy'n rhyddhau Israel, yr Un Sanctaidd – yn ei ddweud wrth yr un sy'n cael ei dirmygu; cenedl sy'n cael ei ffieiddio, a gwas y rhai sy'n llywodraethu:“Bydd brenhinoedd yn gweld ac yn codi ar eu traed,a bydd tywysogion yn ymgrymu,am fod yr ARGLWYDD, sydd wedi bod mor ffyddlon,Un Sanctaidd Israel wedi dy ddewis di.”

8. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydda i'n dy ateb di pan fydd yr amser yn iawn,ac yn dy helpu di pan ddaw'r dydd i mi achub.Fi sydd wedi dy siapio di,a dy benodi di'n ganolwr fy ymrwymiad i'r bobl –bydda i'n adfer y wlad,ac yn rhoi'r hawliau ar y tir yn ôl i'w phobl.

9. Byddi'n dweud wrth garcharorion, ‘Cewch fod yn rhydd,’ac wrth y rhai sy'n y tywyllwch, ‘Dewch i'r golwg.’Byddan nhw fel defaid yn pori ar ochr y ffyrdd,ac yn cael porfa ar lethrau'r bryniau.

10. Fydd dim syched nag eisiau bwyd arnyn nhw;fydd y gwynt poeth a'r haul ddim yn eu taro nhw.Achos bydd yr un sy'n eu caru nhw yn eu harwain,ac yn mynd â nhw at ffynhonnau o ddŵr.

11. Bydda i'n gwneud y mynyddoedd yn ffordd agored,ac yn adeiladu priffyrdd amlwg.”

12. Edrychwch! Mae rhai yn dod o bell.Edrychwch! Mae rhai yn dod o'r gogledd,eraill o'r gorllewin, a rhai o wlad Sinim.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 49