Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 49:19-26 beibl.net 2015 (BNET)

19. Er dy fod wedi dy daro,dy ddifetha a dy ddinistrio fel gwlad,bellach fydd dim digon o le i bawb sydd am fyw ynot ti,a bydd y rhai wnaeth dy ddinistrio yn bell i ffwrdd.

20. Bydd y plant gafodd eu geni yn y cyfnod o golledyn dweud yn dy glyw di,‘Mae hi'n rhy gyfyng yn y lle yma;symudwch i wneud lle i ni!’

21. A byddi di'n meddwl i ti dy hun,‘Pwy gafodd y plant yma i mi?Roeddwn i'n weddw ac yn methu cael plant.Roeddwn wedi cael fy ngwrthod a'm gadael –felly pwy fagodd y rhain?Roeddwn wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun –felly o ble daeth y rhain i gyd?’”

22. Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“Dw i'n gwneud arwydd i alw'r cenhedloedd,ac yn codi fy maner i'r bobloedd.Byddan nhw'n cario dy feibion yn eu côl,a dy ferched ar eu hysgwyddau.

23. Bydd brenhinoedd yn gofalu amdanat ti,a breninesau yn famau maeth.Byddan nhw'n plygu o'th flaen a'u hwynebau ar lawr,ac yn llyfu'r llwch wrth dy draed di.A byddi di'n deall mai fi ydy'r ARGLWYDD –fydd y rhai sydd a'u gobaith ynof fi ddim yn cael eu siomi.

24. Ydy'n bosib dwyn ysbail oddi ar ryfelwr,neu ryddhau caethion o law gormeswr?”

25. Wel, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd caethion yn cael eu cymryd oddi ar ryfelwr,ac ysbail yn cael ei ddwyn oddi ar ormeswr;Bydda i'n ymladd gyda dy elynion di,ac yn achub dy blant di.

26. Bydda i'n gwneud i dy ormeswyr fwyta eu cnawd eu hunain;byddan nhw'n meddwi ar eu gwaed eu hunain, fel ar win melys.A bydd y ddynoliaeth gyfan yn gwybodmai fi ydy'r ARGLWYDDsy'n dy achub di ac yn dy ollwng yn rhydd –Un Cryf Jacob!”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 49