1. Gwrandwch arna i, ynysoedd!Daliwch sylw, chi bobloedd o bell:Galwodd yr ARGLWYDD fi cyn i mi gael fy ngeni,Rhoddodd fy enw i mi pan oeddwn i'n dal yng nghroth fy mam.
2. Gwnaeth fy ngheg fel cleddyf miniog,a chuddiodd fi dan gysgod ei law.Gwnaeth fi fel saeth loyw;a chuddiodd fi yn ei gawell.
3. Dwedodd wrtho i, “Ti ydy fy ngwas i,Israel, y caf fy anrhydeddu trwyddi.”
4. Meddyliais fy mod wedi gweithio'n galed i ddim byd,a gwastraffu fy holl egni i ddim pwrpas.Ond mae fy achos yn llaw'r ARGLWYDD,a bydd fy Nuw yn rhoi fy ngwobr i mi.
5. Nawr, mae'r ARGLWYDD– wnaeth fy llunio i yn y groth i fod yn was iddo –yn dweud ei fod am adfer pobl Jacoba dod ag Israel yn ôl ato'i hun.Bydda i wedi fy anrhydeddu yng ngolwg yr ARGLWYDD,am mai Duw sy'n fy nerthu i.
6. Yna dwedodd, “Mae'n beth rhy fach i ti fod yn was i midim ond i godi llwythau Jacob ar eu traedac adfer yr ychydig rai fydd ar ôl yn Israel.Bydda i'n dy wneud di yn olau i'r cenhedloedd,er mwyn i bobl o ben draw'r byd gael eu hachub.”
7. Dyma mae'r ARGLWYDD – sy'n rhyddhau Israel, yr Un Sanctaidd – yn ei ddweud wrth yr un sy'n cael ei dirmygu; cenedl sy'n cael ei ffieiddio, a gwas y rhai sy'n llywodraethu:“Bydd brenhinoedd yn gweld ac yn codi ar eu traed,a bydd tywysogion yn ymgrymu,am fod yr ARGLWYDD, sydd wedi bod mor ffyddlon,Un Sanctaidd Israel wedi dy ddewis di.”