Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 48:3-20 beibl.net 2015 (BNET)

3. “Dw i wedi sôn ers talwm am y pethau fyddai'n digwydd;dwedais yn glir i bawb glywed.Yna'n sydyn gweithredais, a dyma nhw'n digwydd.

4. Ro'n i'n gwybod mor benstiff wyt ti –mae gewynnau dy wddf fel haearna dy dalcen yn galed fel pres.

5. Dyna pam wnes i roi gwybod i ti'n bell yn ôl,a dweud yn glir cyn i ddim ddigwydd –rhag i ti ddweud, ‘Fy eilun-dduw wnaeth hyn,fy eilun a'm delw metel wnaeth ei drefnu.’

6. Ti wedi clywed hyn i gyd; edrych,pam wnei di ddim cydnabod y peth?A nawr dw i'n mynd i ddweud pethau newydd,pethau cudd allet ti ddim eu gwybod o'r blaen

7. pethau newydd sbon, ddim o'r gorffennol.Dwyt ti ddim wedi clywed hyn cyn heddiw,rhag i ti ddweud, ‘Ro'n i'n gwybod hynny!’

8. Dwyt ti ddim wedi clywed, dwyt ti ddim yn gwybod;allet ti ddim bod wedi clywed hyn o'r blaen.Er fy mod i'n gwybod dy fod ti'n twylloac yn cael dy alw'n rebel ers i ti gael dy eni,

9. dw i wedi atal fy llid er mwyn cadw fy enw daa bod yn amyneddgar er mwyn i mi gael fy moli;dw i wedi ymatal rhag dy ddinistrio di.

10. Edrych, dw i wedi dy buro di, ond nid fel arian;dw i wedi dy brofi di yn ffwrnais dioddefaint.

11. Er fy mwyn fy hun yn unig dw i'n gwneud hyn –Pam dylai fy enw da gael ei halogi?Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall!

12. Gwrandwch arna i, bobl Jacob,ac Israel, y rhai dw i wedi eu galw:Fi ydy e – fi ydy'r cyntaf,a fi ydy'r olaf hefyd.

13. Gosodais sylfeini'r ddaear gyda'm dwylo fy hun,a lledu'r awyr gyda'm llaw dde.Dw i'n eu galw nhw,ac maen nhw'n sefyll gyda'i gilydd.

14. ‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando!Pa un o'ch duwiau ddwedodd am y pethau yma? –y bydd ffrind yr ARGLWYDDyn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon,ac yn defnyddio'i holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’

15. Fi ddwedodd! Fi alwodd e.Fi ddaeth ag e allan, a bydd yn llwyddo.

16. Dewch ata i yma i glywed hyn:‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed;a pan mae'n digwydd dw i yna.’”Felly nawr mae fy Meistr, sef yr ARGLWYDD,wedi fy anfon i gyda'i ysbryd.

17. Dyma mae'r ARGLWYDD sy'n dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel:“Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw,sy'n dy ddysgu di er dy les,ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.

18. O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion!Byddai dy heddwch yn llifo fel afon,a dy gyfiawnder fel tonnau'r môr.

19. Byddai gen ti ddisgynyddion fel y tywod,a plant mor niferus â'r gronynnau o dywod.Fyddai eu henw nhw ddim wedi ei dorri i ffwrdda'i ddileu o'm gŵydd i.

20. Ewch allan ar frys o Babilon!Dianc oddi wrth bobl Caldea!Dwedwch beth sy'n digwydd a gweiddi'n llawen.Cyhoeddwch y peth!Anfonwch y neges i ben draw'r byd!Dwedwch: ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gollwngei was Jacob yn rhydd!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 48