Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 48:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Gosodais sylfeini'r ddaear gyda'm dwylo fy hun,a lledu'r awyr gyda'm llaw dde.Dw i'n eu galw nhw,ac maen nhw'n sefyll gyda'i gilydd.

14. ‘Dewch at eich gilydd i gyd, a gwrando!Pa un o'ch duwiau ddwedodd am y pethau yma? –y bydd ffrind yr ARGLWYDDyn cyflawni ei fwriad yn erbyn Babilon,ac yn defnyddio'i holl nerth yn erbyn pobl Caldea.’

15. Fi ddwedodd! Fi alwodd e.Fi ddaeth ag e allan, a bydd yn llwyddo.

16. Dewch ata i yma i glywed hyn:‘Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol erioed;a pan mae'n digwydd dw i yna.’”Felly nawr mae fy Meistr, sef yr ARGLWYDD,wedi fy anfon i gyda'i ysbryd.

17. Dyma mae'r ARGLWYDD sy'n dy ollwng yn rhydd yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel:“Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw,sy'n dy ddysgu di er dy les,ac yn dy arwain di ar hyd y ffordd y dylet ti fynd.

18. O na fyddet ti wedi gwrando ar fy ngorchmynion!Byddai dy heddwch yn llifo fel afon,a dy gyfiawnder fel tonnau'r môr.

19. Byddai gen ti ddisgynyddion fel y tywod,a plant mor niferus â'r gronynnau o dywod.Fyddai eu henw nhw ddim wedi ei dorri i ffwrdda'i ddileu o'm gŵydd i.

20. Ewch allan ar frys o Babilon!Dianc oddi wrth bobl Caldea!Dwedwch beth sy'n digwydd a gweiddi'n llawen.Cyhoeddwch y peth!Anfonwch y neges i ben draw'r byd!Dwedwch: ‘Mae'r ARGLWYDD wedi gollwngei was Jacob yn rhydd!

21. Wnaethon nhw ddim profi syched,er iddo eu harwain nhw drwy'r anialwch.Gwnaeth i ddŵr lifo o'r graig iddyn nhw;holltodd y graig a dyma ddŵr yn tasgu allan.’

22. Does dim heddwch i bobl ddrwg.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 48