Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 48:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Gwrandwch ar hyn, bobl Jacob –chi sy'n cael eich galw wrth yr enw ‛Israel‛ac yn ddisgynyddion i Jwda;sy'n tyngu i enw'r ARGLWYDDac yn galw ar Dduw Israel –ond heb fod yn ddidwyll wrth wneud hynny.

2. (Maen nhw'n galw eu hunain yn ‛bobl y ddinas sanctaidd‛,ac yn honni pwyso ar Dduw Israel,sef yr ARGLWYDD holl-bwerus):

3. “Dw i wedi sôn ers talwm am y pethau fyddai'n digwydd;dwedais yn glir i bawb glywed.Yna'n sydyn gweithredais, a dyma nhw'n digwydd.

4. Ro'n i'n gwybod mor benstiff wyt ti –mae gewynnau dy wddf fel haearna dy dalcen yn galed fel pres.

5. Dyna pam wnes i roi gwybod i ti'n bell yn ôl,a dweud yn glir cyn i ddim ddigwydd –rhag i ti ddweud, ‘Fy eilun-dduw wnaeth hyn,fy eilun a'm delw metel wnaeth ei drefnu.’

6. Ti wedi clywed hyn i gyd; edrych,pam wnei di ddim cydnabod y peth?A nawr dw i'n mynd i ddweud pethau newydd,pethau cudd allet ti ddim eu gwybod o'r blaen

7. pethau newydd sbon, ddim o'r gorffennol.Dwyt ti ddim wedi clywed hyn cyn heddiw,rhag i ti ddweud, ‘Ro'n i'n gwybod hynny!’

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 48