Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 47:7-11 beibl.net 2015 (BNET)

7. ‘Fi fydd y feistres am byth,’ meddet ti.Wnest ti ddim meddwl am funudbeth fyddai'n digwydd yn y diwedd.

8. Felly, gwrando ar hyn, ti sy wedi dy sbwylio –ti sy'n ofni neb na dim, ac yn meddwl,‘Fi ydy'r un! – Does neb tebyg i mi!Fydda i byth yn weddw,nac yn gwybod beth ydy colli plant.’

9. Ond yn sydyn bydd y ddau bethyn digwydd ar yr un diwrnod:colli dy blant a chael dy hun yn weddw.Byddi'n cael dy lethu'n llwyr ganddyn nhw,er gwaetha dy holl ddewinoa'th swynion gorau.

10. Roeddet ti mor hunanfodlon yn dy ddrygioni,ac yn meddwl, ‘Does neb yn fy ngweld i.’Roedd dy ddoethineb a dy glyfrwchyn dy arwain ar gyfeiliorn,ac roeddet ti'n dweud wrthot ti dy hun,‘Fi ydy'r un! – Does neb tebyg i mi!’

11. Ond mae dinistr yn dod,a fydd dy holl swynion ddim yn ei gadw draw.Mae trychineb ar fin disgyn,a fyddi di ddim yn gallu ei droi i ffwrdd.Yn sydyn bydd dinistr yn dodarnat heb yn wybod.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 47