Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 47:11-15 beibl.net 2015 (BNET)

11. Ond mae dinistr yn dod,a fydd dy holl swynion ddim yn ei gadw draw.Mae trychineb ar fin disgyn,a fyddi di ddim yn gallu ei droi i ffwrdd.Yn sydyn bydd dinistr yn dodarnat heb yn wybod.

12. Dal ati gyda dy swynion a'th ddewino –rwyt wedi bod yn ymarfer ers yn blentyn!Falle y cei di help!Falle y byddi'n dychryn y gelyn!

13. Ti'n gwastraffu dy amser yn gwrando ar holl gynghoriony rhai sy'n syllu i'r awyr ac yn darllen y sêr,ac yn dweud o fis i fis beth sy'n mynd i ddigwydd i ti!Gad iddyn nhw sefyll i fyny a dy achub di!

14. Maen nhw fel gwelltyn cael ei losgi'n y tân.Allan nhw ddim achub eu hunainrhag gwres y fflamau cryfion.Nid glo i dwymo wrtho ydy hwn,neu dân i eistedd o'i flaen!

15. Dyna faint o help ydyn nhw i ti! –y rhai buost ti'n delio gyda nhw ers yn blentyn.Maen nhw i gyd wedi mynd eu ffordd eu hunain,a does neb ar ôl i dy achub di!”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 47