Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 45:8-14 beibl.net 2015 (BNET)

8. Arllwys law i lawr, o awyr!Glawiwch gyfiawnder, gymylau!Agor, ddaear! er mwyn i achubiaeth dyfu,ac i degwch flaguro:Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi ei wneud.”

9. Gwae'r sawl sy'n dadlau gyda'i Wneuthurwr,ac yntau'n ddim byd ond darn o lestr wedi torri ar lawr!Ydy'r clai yn dweud wrth y crochenydd,“Beth yn y byd wyt ti'n wneud?”neu, “Does dim dolen ar dy waith”?

10. Gwae'r un sy'n dweud wrth dad,“Beth wyt ti'n ei genhedlu?”neu wrth fam, “Beth wyt ti'n ei eni?”

11. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel wnaeth ei siapio:“Dych chi'n fy holi am ddyfodol fy mhlant?Dych chi am ddweud wrtho i beth i'w wneud?

12. Fi wnaeth y ddaear,a chreu y ddynoliaeth arni.Fi fy hun wnaeth ledu'r awyr,a rhoi trefn ar y sêr.

13. A fi sydd wedi codi Cyrus i achubac wedi gwneud y ffordd o'i flaen yn rhwydd.Bydd e'n ailadeiladu fy ninas i,ac yn gollwng fy mhobl gafodd eu caethgludo yn rhyddheb unrhyw dâl na gwobr,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

14. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd cyfoeth yr Aifft ac enillion Affricaa'r Sabeaid tal,yn dod yn eiddo i ti.Byddan nhw'n dy ddilyn di mewn cadwyni,yn plygu o dy flaen di,ac yn pledio:‘Dim ond gyda ti mae Duw,a does dim duw arall o gwbl!’”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 45