Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 45:4-21 beibl.net 2015 (BNET)

4. Dw i wedi dy alw di wrth dy enwer mwyn fy ngwas Jacob,ac er mwyn Israel, yr un dw i wedi ei ddewis.Dw i'n mynd i roi teitl i ti,er nad wyt ti'n fy nabod.

5. Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall;does dim duw ar wahân i mi.Dw i'n mynd i dy arfogi di,er nad wyt ti'n fy nabod.

6. Dw i eisiau i bawb, o'r dwyrain i'r gorllewin,wybod fod neb arall ond fi.Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall.

7. Fi sy'n rhoi golau, ac yn creu twyllwch,yn dod â heddwch ac yn creu trwbwl –Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cwbl.

8. Arllwys law i lawr, o awyr!Glawiwch gyfiawnder, gymylau!Agor, ddaear! er mwyn i achubiaeth dyfu,ac i degwch flaguro:Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi ei wneud.”

9. Gwae'r sawl sy'n dadlau gyda'i Wneuthurwr,ac yntau'n ddim byd ond darn o lestr wedi torri ar lawr!Ydy'r clai yn dweud wrth y crochenydd,“Beth yn y byd wyt ti'n wneud?”neu, “Does dim dolen ar dy waith”?

10. Gwae'r un sy'n dweud wrth dad,“Beth wyt ti'n ei genhedlu?”neu wrth fam, “Beth wyt ti'n ei eni?”

11. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel wnaeth ei siapio:“Dych chi'n fy holi am ddyfodol fy mhlant?Dych chi am ddweud wrtho i beth i'w wneud?

12. Fi wnaeth y ddaear,a chreu y ddynoliaeth arni.Fi fy hun wnaeth ledu'r awyr,a rhoi trefn ar y sêr.

13. A fi sydd wedi codi Cyrus i achubac wedi gwneud y ffordd o'i flaen yn rhwydd.Bydd e'n ailadeiladu fy ninas i,ac yn gollwng fy mhobl gafodd eu caethgludo yn rhyddheb unrhyw dâl na gwobr,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus.

14. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Bydd cyfoeth yr Aifft ac enillion Affricaa'r Sabeaid tal,yn dod yn eiddo i ti.Byddan nhw'n dy ddilyn di mewn cadwyni,yn plygu o dy flaen di,ac yn pledio:‘Dim ond gyda ti mae Duw,a does dim duw arall o gwbl!’”

15. Ti'n sicr yn Dduw sy'n cuddio ei hun,O Dduw Israel, yr un sy'n achub!

16. Bydd y rhai sy'n cerfio eilunodyn teimlo cywilydd ac embaras –byddan nhw i gyd yn sleifio i ffwrdd mewn cywilydd.

17. Y mae Israel yn saff gyda'r ARGLWYDDac yn cael ei hachub am byth!Fydd hi ddim yn profi cywilydd nac embarasbyth bythoedd!

18. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, sef Crëwr y nefoedd! Yr unig Dduw! Yr un wnaeth y ddaear, ei siapio a'i gosod yn ei lle – nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni:“Fi ydy'r ARGLWYDD, does dim un arall.

19. Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol,mewn rhyw le tywyll.Wnes i ddim dweud wrth blant Jacob,‘Edrychwch amdana i i ddim pwrpas’ –Dw i, yr ARGLWYDD, yn dweud beth sy'n iawn,ac yn dweud y gwir.

20. Dewch yma at eich gilydd.Dewch ata i gyda'ch gilydd,chi ffoaduriaid y cenhedloedd!Dydy'r rhai sy'n cario delwau pren yn gwybod dim,na'r rhai sy'n gweddïo ar dduwiausydd ddim yn gallu achub!

21. Cyflwynwch eich tystiolaeth –gadewch iddyn nhw drafod gyda'i gilydd!Pwy ddwedodd am hyn ymlaen llaw?Pwy soniodd am y peth o'r dechrau?Onid fi, yr ARGLWYDD?Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi!Fi ydy'r Duw cyfiawn sy'n achub –does dim un arall!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 45