Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 45:18-25 beibl.net 2015 (BNET)

18. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud, sef Crëwr y nefoedd! Yr unig Dduw! Yr un wnaeth y ddaear, ei siapio a'i gosod yn ei lle – nid i fod yn ddiffaith, ond i bobl fyw arni:“Fi ydy'r ARGLWYDD, does dim un arall.

19. Dw i ddim wedi siarad yn gyfrinachol,mewn rhyw le tywyll.Wnes i ddim dweud wrth blant Jacob,‘Edrychwch amdana i i ddim pwrpas’ –Dw i, yr ARGLWYDD, yn dweud beth sy'n iawn,ac yn dweud y gwir.

20. Dewch yma at eich gilydd.Dewch ata i gyda'ch gilydd,chi ffoaduriaid y cenhedloedd!Dydy'r rhai sy'n cario delwau pren yn gwybod dim,na'r rhai sy'n gweddïo ar dduwiausydd ddim yn gallu achub!

21. Cyflwynwch eich tystiolaeth –gadewch iddyn nhw drafod gyda'i gilydd!Pwy ddwedodd am hyn ymlaen llaw?Pwy soniodd am y peth o'r dechrau?Onid fi, yr ARGLWYDD?Does dim duw arall yn bod ar wahân i mi!Fi ydy'r Duw cyfiawn sy'n achub –does dim un arall!

22. Dewch o ben draw'r byd;trowch ata i i gael eich achub!Achos fi ydy Duw, a does dim un arall.

23. Dw i wedi mynd ar fy llw,dw i'n dweud y gwir,fydda i'n cymryd dim yn ôl:‘Bydd pob glin yn plygu i mi,a phob tafod yn tyngu i mi!

24. Byddan nhw'n dweud: “Ydy, mae'r ARGLWYDDyn Dduw cyfiawn a chryf!”’”Bydd y rhai gododd yn ei erbynyn troi ato mewn cywilydd.

25. Bydd disgynyddion Israelyn cael eu hachub gan yr ARGLWYDDac yn canu mawl iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 45