Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 45:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Cyrus, yr un mae wedi ei eneinio; yr un mae wedi gafael yn ei law, iddo sathru gwledydd o'i flaen a diarfogi brenhinoedd. Yr un mae wedi agor drysau iddo heb adael unrhyw giât ar gau:

2. “Dw i'n mynd o dy flaen dii fwrw waliau dinasoedd i lawr,dryllio drysau presa thorri'r barrau haearn.

3. Dw i'n mynd i roi i ti drysorau sydd yn y tywyllwch,stôr o gyfoeth wedi ei guddio o'r golwg –er mwyn i ti wybod mai fi, yr ARGLWYDD,Duw Israel, sydd wedi dy alw di wrth dy enw.

4. Dw i wedi dy alw di wrth dy enwer mwyn fy ngwas Jacob,ac er mwyn Israel, yr un dw i wedi ei ddewis.Dw i'n mynd i roi teitl i ti,er nad wyt ti'n fy nabod.

5. Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall;does dim duw ar wahân i mi.Dw i'n mynd i dy arfogi di,er nad wyt ti'n fy nabod.

6. Dw i eisiau i bawb, o'r dwyrain i'r gorllewin,wybod fod neb arall ond fi.Fi ydy'r ARGLWYDD a does dim un arall.

7. Fi sy'n rhoi golau, ac yn creu twyllwch,yn dod â heddwch ac yn creu trwbwl –Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gwneud y cwbl.

8. Arllwys law i lawr, o awyr!Glawiwch gyfiawnder, gymylau!Agor, ddaear! er mwyn i achubiaeth dyfu,ac i degwch flaguro:Fi, yr ARGLWYDD, sydd wedi ei wneud.”

9. Gwae'r sawl sy'n dadlau gyda'i Wneuthurwr,ac yntau'n ddim byd ond darn o lestr wedi torri ar lawr!Ydy'r clai yn dweud wrth y crochenydd,“Beth yn y byd wyt ti'n wneud?”neu, “Does dim dolen ar dy waith”?

10. Gwae'r un sy'n dweud wrth dad,“Beth wyt ti'n ei genhedlu?”neu wrth fam, “Beth wyt ti'n ei eni?”

11. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – Un Sanctaidd Israel wnaeth ei siapio:“Dych chi'n fy holi am ddyfodol fy mhlant?Dych chi am ddweud wrtho i beth i'w wneud?

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 45