Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 43:5-9 beibl.net 2015 (BNET)

5. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.Bydda i'n dod â'th ddisgynyddion di yn ôl o'r dwyrain,ac yn dy gasglu di o'r gorllewin.

6. Bydda i'n dweud wrth y gogledd, ‘Gollwng nhw!’ac wrth y de, ‘Paid dal neb yn ôl!’Tyrd â'm meibion i o wledydd pell,a'm merched o ben draw'r byd –

7. pawb sydd â'm henw i arnyn nhw,ac wedi eu creu i ddangos fy ysblander i.Ie, fi wnaeth eu siapio a'u gwneud nhw.

8. Dewch â nhw allan!Y rhai sy'n ddall er bod ganddyn nhw lygaid,ac yn fyddar er bod ganddyn nhw glustiau.

9. Mae'r cenhedloedd i gyd wedi dod at ei gilydd,a gwledydd y byd wedi ymgasglu.Pa un o'u duwiau nhw ddwedodd am hyn,a dweud ymlaen llaw am beth sydd wedi digwydd?Gadewch iddyn nhw alw tystion i brofi eu hunain,er mwyn i bobl eu clywed, a dweud, ‘Mae'n wir!’”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 43