17. yr un ddinistriodd gerbydau a cheffylau, a'r fyddin ddewr i gyd (Maen nhw'n gorwedd gyda'i gilydd, a fyddan nhw ddim yn codi. Cawson nhw eu diffodd, fel diffodd cannwyll):
18. “Peidiwch hel atgofion am y gorffennol,a dim ond meddwl am beth ddigwyddodd o'r blaen!
19. Edrychwch! Dw i'n gwneud rhywbeth newydd!Mae ar fin digwydd!Ydych chi ddim yn ei weld?Dw i'n mynd i agor ffordd drwy'r anialwch,a rhoi afonydd yn y tir diffaith.
20. Bydd anifeiliaid gwylltion yn diolch i mi,y siacaliaid a'r estrys,am fy mod wedi rhoi dŵr yn yr anialwch,ac afonydd mewn tir diffaith,i roi diod i'r bobl dw i wedi eu dewis –
21. y bobl wnes i eu llunio i mi fy hun,iddyn nhw fy moli i.”
22. “Ond dwyt ti ddim wedi galw arna i, Jacob;rwyt ti wedi blino arna i, Israel.
23. Dwyt ti ddim wedi dod â dafad yn offrwm i'w losgi i mi,nac wedi fy anrhydeddu gydag aberthau.Dw i ddim wedi pwyso arnat ti am offrwm o rawn,na dy boeni di am yr arogldarth o thus.
24. Dwyt ti ddim wedi prynu sbeisiau pêr i mina'm llenwi gyda brasder dy aberthau.Yn lle hynny, rwyt ti wedi rhoi baich dy bechodau arna i,a'm blino gyda dy ddrygioni.