Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 43:13-22 beibl.net 2015 (BNET)

13. Fi ydy e o'r dechrau cyntaf!Does neb yn gallu cipio rhywun oddi arna i.Pan dw i'n gwneud rhywbeth,does neb yn gallu ei ddadwneud.”

14. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un sy'n dy ryddhau, Un Sanctaidd Israel:“Dw i'n mynd i'w anfon e i Babilon er dy fwyn di.Bydda i'n bwrw ei barrau haearn i lawr,a throi bloeddio llawen y Babiloniaid yn alar.

15. Fi ydy'ch Un Sanctaidd chi, yr ARGLWYDD,eich Brenin chi, yr un greodd Israel.”

16. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un agorodd ffordd drwy'r môr, a llwybr drwy'r dyfroedd mawr;

17. yr un ddinistriodd gerbydau a cheffylau, a'r fyddin ddewr i gyd (Maen nhw'n gorwedd gyda'i gilydd, a fyddan nhw ddim yn codi. Cawson nhw eu diffodd, fel diffodd cannwyll):

18. “Peidiwch hel atgofion am y gorffennol,a dim ond meddwl am beth ddigwyddodd o'r blaen!

19. Edrychwch! Dw i'n gwneud rhywbeth newydd!Mae ar fin digwydd!Ydych chi ddim yn ei weld?Dw i'n mynd i agor ffordd drwy'r anialwch,a rhoi afonydd yn y tir diffaith.

20. Bydd anifeiliaid gwylltion yn diolch i mi,y siacaliaid a'r estrys,am fy mod wedi rhoi dŵr yn yr anialwch,ac afonydd mewn tir diffaith,i roi diod i'r bobl dw i wedi eu dewis –

21. y bobl wnes i eu llunio i mi fy hun,iddyn nhw fy moli i.”

22. “Ond dwyt ti ddim wedi galw arna i, Jacob;rwyt ti wedi blino arna i, Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 43