Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 43:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Nawr, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud – yr un wnaeth dy greu di, Jacob, a rhoi siâp i ti, Israel:“Paid bod ag ofn! Dw i wedi dy ollwng di'n rhydd!Dw i wedi dy alw wrth dy enw! Fi piau ti!

2. Pan fyddi di'n mynd trwy lifogydd, bydda i gyda ti;neu drwy afonydd, fyddan nhw ddim yn dy gario di i ffwrdd.Wrth i ti gerdded trwy dân, fyddi di'n cael dim niwed;fydd y fflamau ddim yn dy losgi di.

3. Achos fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduw di,Un Sanctaidd Israel, dy Achubwr di!Rhoddais yr Aifft yn dâl amdanat ti,Cwsh a Seba yn dy le di.

4. Dw i'n dy drysori di, ac yn dy garu di,achos ti'n werthfawr yn fy ngolwg i.Dw i'n barod i roi'r ddynoliaeth yn gyfnewid amdanat ti,a'r bobloedd yn dy le di.

5. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.Bydda i'n dod â'th ddisgynyddion di yn ôl o'r dwyrain,ac yn dy gasglu di o'r gorllewin.

6. Bydda i'n dweud wrth y gogledd, ‘Gollwng nhw!’ac wrth y de, ‘Paid dal neb yn ôl!’Tyrd â'm meibion i o wledydd pell,a'm merched o ben draw'r byd –

7. pawb sydd â'm henw i arnyn nhw,ac wedi eu creu i ddangos fy ysblander i.Ie, fi wnaeth eu siapio a'u gwneud nhw.

8. Dewch â nhw allan!Y rhai sy'n ddall er bod ganddyn nhw lygaid,ac yn fyddar er bod ganddyn nhw glustiau.

9. Mae'r cenhedloedd i gyd wedi dod at ei gilydd,a gwledydd y byd wedi ymgasglu.Pa un o'u duwiau nhw ddwedodd am hyn,a dweud ymlaen llaw am beth sydd wedi digwydd?Gadewch iddyn nhw alw tystion i brofi eu hunain,er mwyn i bobl eu clywed, a dweud, ‘Mae'n wir!’”

10. “Chi ydy fy nhystion i,”—meddai'r ARGLWYDD—“a'r gwas dw i wedi ei ddewisi wybod ac i gadarnhaueich bod chi'n deall mai fi ydy e.Doedd dim duw o'm blaen i,a fydd yna ddim un ar fy ôl i.

11. Fi, ie fi ydy'r unig ARGLWYDD,a does neb ond fi yn gallu achub.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 43