Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 42:5-15 beibl.net 2015 (BNET)

5. Dyma mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud – yr un greodd yr awyr, a'i lledu allan; yr un wnaeth siapio'r ddaear a phopeth ynddi; yr un sy'n rhoi anadl i'r bobl sy'n byw arni, a bywyd i'r rhai sy'n cerdded arni:

6. “Fi ydy'r ARGLWYDD,dw i wedi dy alw i wneud beth sy'n iawn,a gafael yn dy law.Dw i'n gofalu amdanat ti,ac yn dy benodi yn ganolwr fy ymrwymiad i bobl,ac yn olau i genhedloedd –

7. i agor llygaid y dall,rhyddhau carcharorion o'u celloedd,a'r rhai sy'n byw yn y tywyllwch o'r carchar.

8. Fi ydy'r ARGLWYDD, dyna fy enw i.Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall,na rhoi'r clod dw i'n ei haeddu i ddelwau.

9. Mae'r pethau cyntaf ddwedais wedi dod yn wir,a nawr dw i'n cyhoeddi pethau newydd.Dw i'n gadael i chi glywed amdanyn nhwcyn iddyn nhw ddechrau digwydd.”

10. Canwch gân newydd i'r ARGLWYDD,canwch ei glod o ben draw'r byd –chi sy'n hwylio ar y môr, a'r holl greaduriaid sydd ynddo,a chi sy'n byw ar yr ynysoedd!

11. Boed i'r anialwch a'i drefi godi eu lleisiau,a'r pentrefi ble mae crwydriaid Cedar yn byw.Canwch yn llawen, chi sy'n byw yn Sela,a gweiddi'n uchel o ben y mynyddoedd.

12. Boed iddyn nhw roi clod i'r ARGLWYDD,a dweud am ei ysblander ar yr ynysoedd.

13. Mae'r ARGLWYDD yn mynd allan fel milwrar dân ac yn frwd i ymladd yn y rhyfel.Mae e'n gweiddi – yn wir, mae e'n rhuowrth ymosod ar ei elynion.

14. “Dw i wedi bod yn ddistaw yn rhy hir;wedi cadw'n dawel, a dal fy hun yn ôl.Ond nawr, fel gwraig yn cael plentyn,dw i'n sgrechian a gwingo a griddfan.

15. Dw i'n mynd i ddifetha'r bryniau a'r mynyddoedd,a gwneud i bob tyfiant wywo.Dw i'n mynd i wneud yr afonydd yn sych,a sychu'r pyllau dŵr hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 42