Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 42:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma fy ngwas, yr un dw i'n ei gynnal;yr un dw i wedi ei ddewis, ac sydd wrth fy modd i!Rhof fy ysbryd iddo,a bydd yn dysgu cyfiawnder i'r cenhedloedd.

2. Fydd e ddim yn gweiddi a chodi ei lais,nac yn gadael i neb glywed ei lais ar y strydoedd.

3. Fydd e ddim yn torri brwynen fregus,nac yn diffodd llin sy'n mygu.Bydd e'n dangos y ffordd iawn i ni.

4. Fydd e ddim yn methu nac yn anobeithiones iddo sefydlu'r ffordd iawn ar y ddaear.Mae'r ynysoedd yn disgwyl am ei ddysgeidiaeth.”

5. Dyma mae'r ARGLWYDD Dduw yn ei ddweud – yr un greodd yr awyr, a'i lledu allan; yr un wnaeth siapio'r ddaear a phopeth ynddi; yr un sy'n rhoi anadl i'r bobl sy'n byw arni, a bywyd i'r rhai sy'n cerdded arni:

6. “Fi ydy'r ARGLWYDD,dw i wedi dy alw i wneud beth sy'n iawn,a gafael yn dy law.Dw i'n gofalu amdanat ti,ac yn dy benodi yn ganolwr fy ymrwymiad i bobl,ac yn olau i genhedloedd –

7. i agor llygaid y dall,rhyddhau carcharorion o'u celloedd,a'r rhai sy'n byw yn y tywyllwch o'r carchar.

8. Fi ydy'r ARGLWYDD, dyna fy enw i.Dw i ddim yn rhannu fy ysblander gyda neb arall,na rhoi'r clod dw i'n ei haeddu i ddelwau.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 42