Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 41:9-24 beibl.net 2015 (BNET)

9. Des i â ti yma o bell,a'th alw o ben draw'r byd;a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.”Dw i wedi dy ddewis di!Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti!

10. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.Paid dychryn – fi ydy dy Dduw di!Dw i'n dy nerthu di ac yn dy helpu di,Dw i'n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.

11. Bydd pawb sy'n codi yn dy erbyn diyn cael eu cywilyddio a'i drysu.Bydd y rhai sy'n ymladd yn dy erbyn diyn diflannu ac yn marw.

12. Byddi'n edrych am y rhai sy'n ymosod arnat tiac yn methu dod o hyd iddyn nhw.Bydd y rhai sy'n rhyfela yn dy erbyn diyn diflannu ac yn peidio â bod.

13. Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di,yn rhoi cryfder i dy law dde di,ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn.Bydda i'n dy helpu di.”

14. Paid bod ag ofn, y pryf Jacob,y lindys bach Israel –Bydda i'n dy helpu di!—meddai'r ARGLWYDD—Fi sy'n dy ryddhau di, sef Un Sanctaidd Israel.

15. Bydda i'n dy wneud di yn llusg dyrnu –un newydd, hefo llawer iawn o ddannedd.Byddi'n dyrnu mynyddoedd a'u maluac yn gwneud bryniau fel us.

16. Byddi'n eu nithio nhw,a bydd gwynt stormus yn eu chwythu i ffwrdd.Bydd corwynt yn eu gyrru ar chwâl.Ond byddi di yn llawenhau yn yr ARGLWYDD,Ac yn canu mawl i Un Sanctaidd Israel.

17. Ond am y bobl dlawd ac anghenussy'n chwilio am ddŵr ac yn methu cael dim;ac sydd bron tagu gan syched:bydda i, yr ARGLWYDD, yn eu hateb nhw;fydda i, Duw Israel, ddim yn eu gadael nhw.

18. Bydda i'n gwneud i nentydd lifo ar y bryniau anial,ac yn agor ffynhonnau yn y dyffrynnoedd.Bydda i'n troi'r anialwch yn byllau dŵr,a'r tir sych yn ffynhonnau.

19. Bydda i'n plannu coed cedrwydd yno,coed acasia, myrtwydd, ac olewydd;bydda i'n gosod coed cypres,coed llwyfen a choed pinwydd hefyd –

20. er mwyn i bobl weld a gwybod,ystyried a sylweddoli,mai'r ARGLWYDD sydd wedi gwneud hyn,ac mai Un Sanctaidd Israel sydd wedi peri iddo ddigwydd.

21. “Cyflwynwch eich achos,” meddai'r ARGLWYDD.“Sut ydych chi am bledio?”, meddai Brenin Jacob.

22. “Dewch â'ch duwiau yma i ddweud wrthon nibeth sy'n mynd i ddigwydd.Beth am ddweud wrthon ni beth broffwydon nhw yn y gorffennol? –i ni allu penderfynu wrth weld y canlyniadau.Neu ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol?

23. Dwedwch wrthon ni beth sydd i ddod,er mwyn i ni gael gwybod eich bod chi'n dduwiau!Gwnewch rywbeth – da neu ddrwg –fydd yn ein rhyfeddu ni!

24. Ond y gwir ydy, dych chi ddim yn bod;allwch chi wneud dim byd o gwbl!Mae rhywun sy'n dewis eich addoli chi yn ffiaidd!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 41