Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 41:3-13 beibl.net 2015 (BNET)

3. Mae'n mynd ar eu holau,ac yn pasio heibio'n ddianaf;dydy ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr!

4. Pwy sydd wedi gwneud hyn i gyd?Pwy alwodd y cenedlaethau o'r dechrau? –Fi, yr ARGLWYDD, oedd yno ar y dechraua bydda i yno yn y diwedd hefyd. Fi ydy e!

5. Mae'r ynysoedd yn gweld, ac maen nhw'n ofni,mae pob cwr o'r ddaear yn crynu.Dyma nhw'n dod, maen nhw'n agos!

6. Maen nhw'n helpu ei gilydd,ac mae un yn annog y llall, “Bydd yn ddewr!”

7. Mae'r saer coed yn annog y gof aur,a'r un sy'n bwrw gyda'r morthwylyn annog yr un sy'n taro'r einion.Mae'n canmol y gwaith sodro, “Mae'n dda!”ac yna'n ei hoelio'n saff, a dweud“Fydd hwnna ddim yn symud!”

8. Ond Israel, ti ydy fy ngwas i,Jacob, ti dw i wedi ei ddewis –disgynyddion Abraham, fy ffrind i.

9. Des i â ti yma o bell,a'th alw o ben draw'r byd;a dweud wrthot ti: “Ti ydy fy ngwas i.”Dw i wedi dy ddewis di!Dw i ddim wedi troi cefn arnat ti!

10. Paid bod ag ofn, achos dw i gyda ti.Paid dychryn – fi ydy dy Dduw di!Dw i'n dy nerthu di ac yn dy helpu di,Dw i'n dy gynnal di ac yn dy achub di hefo fy llaw dde.

11. Bydd pawb sy'n codi yn dy erbyn diyn cael eu cywilyddio a'i drysu.Bydd y rhai sy'n ymladd yn dy erbyn diyn diflannu ac yn marw.

12. Byddi'n edrych am y rhai sy'n ymosod arnat tiac yn methu dod o hyd iddyn nhw.Bydd y rhai sy'n rhyfela yn dy erbyn diyn diflannu ac yn peidio â bod.

13. Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di,yn rhoi cryfder i dy law dde di,ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn.Bydda i'n dy helpu di.”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 41