Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 41:22-29 beibl.net 2015 (BNET)

22. “Dewch â'ch duwiau yma i ddweud wrthon nibeth sy'n mynd i ddigwydd.Beth am ddweud wrthon ni beth broffwydon nhw yn y gorffennol? –i ni allu penderfynu wrth weld y canlyniadau.Neu ddweud beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol?

23. Dwedwch wrthon ni beth sydd i ddod,er mwyn i ni gael gwybod eich bod chi'n dduwiau!Gwnewch rywbeth – da neu ddrwg –fydd yn ein rhyfeddu ni!

24. Ond y gwir ydy, dych chi ddim yn bod;allwch chi wneud dim byd o gwbl!Mae rhywun sy'n dewis eich addoli chi yn ffiaidd!

25. Fi wnaeth godi'r un o'r gogledd, ac mae wedi dod;yr un o'r dwyrain sy'n galw ar fy enw i.Mae wedi sathru arweinwyr fel sathru mwd,neu fel mae crochenydd yn sathru clai.

26. Pwy arall ddwedodd am hyn wrthon ni o'r dechrau?Pwy wnaeth ddweud am y peth ymlaen llaw,i ni allu dweud, ‘Roedd e'n iawn!’?Wnaeth neb sôn am y peth – ddwedodd neb ddim.Na, does neb wedi'ch clywed chi'n dweud gair!

27. Fi wnaeth ddweud gyntaf wrth Seion:‘Edrychwch! Maen nhw'n dod!’Fi wnaeth anfon negesydd gyda newyddion da i Jerwsalem!

28. Dw i'n edrych, a does yr un o'r rhainyn gallu rhoi cyngor nac ateb cwestiwn gen i.

29. Y gwir ydy, mae'n nhw'n afreal –dŷn nhw'n gallu gwneud dim byd o gwbl!Mae eu delwau metelmor ddisylwedd ag anadl!

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 41