Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 41:13-18 beibl.net 2015 (BNET)

13. Fi, yr ARGLWYDD, ydy dy Dduw di,yn rhoi cryfder i dy law dde di,ac yn dweud wrthot ti: “Paid bod ag ofn.Bydda i'n dy helpu di.”

14. Paid bod ag ofn, y pryf Jacob,y lindys bach Israel –Bydda i'n dy helpu di!—meddai'r ARGLWYDD—Fi sy'n dy ryddhau di, sef Un Sanctaidd Israel.

15. Bydda i'n dy wneud di yn llusg dyrnu –un newydd, hefo llawer iawn o ddannedd.Byddi'n dyrnu mynyddoedd a'u maluac yn gwneud bryniau fel us.

16. Byddi'n eu nithio nhw,a bydd gwynt stormus yn eu chwythu i ffwrdd.Bydd corwynt yn eu gyrru ar chwâl.Ond byddi di yn llawenhau yn yr ARGLWYDD,Ac yn canu mawl i Un Sanctaidd Israel.

17. Ond am y bobl dlawd ac anghenussy'n chwilio am ddŵr ac yn methu cael dim;ac sydd bron tagu gan syched:bydda i, yr ARGLWYDD, yn eu hateb nhw;fydda i, Duw Israel, ddim yn eu gadael nhw.

18. Bydda i'n gwneud i nentydd lifo ar y bryniau anial,ac yn agor ffynhonnau yn y dyffrynnoedd.Bydda i'n troi'r anialwch yn byllau dŵr,a'r tir sych yn ffynhonnau.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 41