Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 41:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Byddwch dawel a gwrando, ynysoedd;dw i am i'r bobloedd gael nerth newydd.Boed iddyn nhw nesáu i ddweud eu dweud.Gadewch i ni ddod at ein gilydd yn y llys barn.

2. Pwy sydd wedi codi'r un o'r dwyrain?Pwy mae Cyfiawnder yn ei alw i'w ddilyn?Mae'n rhoi gwledydd iddo eu concro,ac i fwrw eu brenhinoedd i lawr.Mae ei gleddyf yn eu gwneud fel llwch,a'i fwa yn eu gyrru ar chwâl fel us.

3. Mae'n mynd ar eu holau,ac yn pasio heibio'n ddianaf;dydy ei draed ddim yn cyffwrdd y llawr!

4. Pwy sydd wedi gwneud hyn i gyd?Pwy alwodd y cenedlaethau o'r dechrau? –Fi, yr ARGLWYDD, oedd yno ar y dechraua bydda i yno yn y diwedd hefyd. Fi ydy e!

5. Mae'r ynysoedd yn gweld, ac maen nhw'n ofni,mae pob cwr o'r ddaear yn crynu.Dyma nhw'n dod, maen nhw'n agos!

6. Maen nhw'n helpu ei gilydd,ac mae un yn annog y llall, “Bydd yn ddewr!”

7. Mae'r saer coed yn annog y gof aur,a'r un sy'n bwrw gyda'r morthwylyn annog yr un sy'n taro'r einion.Mae'n canmol y gwaith sodro, “Mae'n dda!”ac yna'n ei hoelio'n saff, a dweud“Fydd hwnna ddim yn symud!”

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 41