Hen Destament

Testament Newydd

Eseia 40:11-25 beibl.net 2015 (BNET)

11. Bydd yn bwydo ei braidd fel bugail:bydd yn codi'r ŵyn yn ei freichiauac yn eu cario yn ei gôl,tra'n arwain y defaid sy'n eu magu.

12. Pwy sydd wedi dal y moroedd yng nghledr ei law,a mesur yr awyr rhwng ei fysedd?Pwy sydd wedi dal pridd y ddaear mewn padell,pwyso'r mynyddoedd mewn mantola'r bryniau gyda chlorian?

13. Pwy sydd wedi gosod ffiniau i ysbryd yr ARGLWYDD,neu roi arweiniad iddo fel ei gynghorydd personol?

14. Gyda pwy mae Duw'n trafod i gael gwybod beth i'w wneud?Pwy sy'n ei ddysgu i wneud y peth iawn?Pwy sy'n rhoi gwybodaeth iddo?Pwy sy'n ei helpu i ddeall?

15. Dydy'r cenhedloedd ond diferyn mewn bwced;dim mwy na llwch ar glorian!Dydy'r ynysoedd yn ddim mwy na llwch mân.

16. Does dim digon o goed tân yn Libanus,na digon o anifeiliaid chwaith,i baratoi offrwm teilwng i'w losgi iddo.

17. Dydy'r gwledydd i gyd yn ddim o'i gymharu ag e –maen nhw fel rhywbeth dibwys yn ei olwg,yn llai na dim byd!

18. Felly, i bwy mae Duw yn debyg yn eich barn chi?Gyda beth allwch chi ei gymharu?

19. Eilun? Cerfiwr sy'n siapio hwnnw,a gof yn ei orchuddio ag aura gwneud bachau i'w ddal yn ei le!

20. Mae'r sawl sy'n rhy dlawdyn dewis pren fydd ddim yn pydru,ac yn edrych am y crefftwr goraui wneud eilun sydd ddim yn symud!

21. Ydych chi ddim yn gwybod?Ydych chi ddim wedi clywed?Oes neb wedi dweud wrthoch chi o'r dechrau?Ydych chi ddim yn deall sut gafodd y ddaear ei sylfaenu?

22. Fe ydy'r Un sy'n eistedd uwchben y ddaear,ac mae'r bobl sy'n byw arni fel ceiliogod rhedyn o'i flaen.Fe ydy'r Un sy'n taenu'r awyr fel llenni,ac yn ei lledu allan fel pabell i fyw ynddi.

23. Fe ydy'r un sy'n gwneud y pwysigion yn neb,a'r rhai sy'n llywodraethu ar y ddaear yn ddim.

24. Prin eu bod wedi eu plannu,prin eu bod wedi eu hau,prin eu bod wedi bwrw gwreiddiau yn y tir –mae e'n chwythu arnyn nhw ac maen nhw'n gwywo,ac mae gwynt stormus yn eu cario i ffwrdd fel us.

25. “I bwy dw i'n debyg yn eich barn chi?Oes rhywun arall cystal?”—meddai'r Un Sanctaidd.

Darllenwch bennod gyflawn Eseia 40